Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Cyflwynwyd cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) Cymru ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn 2004/05. Yn 2005/06, cafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed, a phobl ifanc 18 oed yn 2006/07. Lwfans wythnosol yw prif ran yr LCA, sy’n gysylltiedig â phresenoldeb boddhaol ac yn cael ei dalu i ddysgwyr cymwys sy’n mynychu canolfannau dysgu yng Nghymru.

Nod yr LCA yw mynd i’r afael â’r berthynas rhwng incwm isel a diffyg cyfranogiad drwy roi cymhelliad ariannol i bobl ifanc o gartrefi incwm isel aros mewn addysg amser llawn ar ôl addysg orfodol.

Pan lansiwyd y cynlluniau LCA yn genedlaethol yn 2004, cytunodd cynrychiolwyr llywodraeth y DU a phob un o’r gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, y byddai cymorth drwy’r cynlluniau LCA ar gael i ddysgwyr ledled y DU yn ôl ble maent yn astudio yn hytrach nag yn ôl ble maent fel arfer yn byw.

Ym mis Gorffennaf 2010, cyhoeddais newidiadau i gynllun LCA Cymru o 2011/12 ymlaen a fyddai’n sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y mannau lle mae’n cael yr effaith fwyaf. Mae’r trefniadau ar gyfer rhoi’r newidiadau ar waith hefyd yn amddiffyn y rheini sy’n derbyn yr LCA ar hyn o bryd, a fyddai bellach yn anghymwys o dan y cynllun LCA, nes iddynt gwblhau’u cyrsiau. Byddant yn cael eu hamddiffyn cyn belled â’u bod yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r trothwy incwm gwreiddiol.

Ar 20 Hydref, cyhoeddodd y Canghellor George Osborne i Senedd y DU y byddai’r cynllun LCA yn cael ei ddiddymu yn Lloegr, gyda chynllun gwahanol yn ei le. Mae swyddogion yr Adran Addysg wedi cadarnhau y bydd y cynllun yn Lloegr yn dod i ben yn llwyr ar 31 Awst 2011. Yn ei le, bydd cronfa uwch cymorth dewisol i ddysgwyr (DLSF) i’r rheini sy’n wynebu caledi difrifol.

Heb newidiadau pellach i gynllun LCA Cymru o fis Medi 2011 ymlaen, ni fyddai modd i ddysgwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr wneud cais bellach am LCA. Yn ôl y ffigurau a gafodd eu datgan gan yr Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc yn Lloegr, derbyniodd 897 o ddysgwyr sy’n hanu o Gymru yr LCA gan Loegr yn 2009/10.

Felly, gan ystyried yr amgylchiadau hyn, bydd meini prawf cymhwysedd y cynllun o 2011/12 ymlaen yn nodi bod yn rhaid i ddysgwyr fod yn byw yng Nghymru fel arfer (yn hanu o Gymru) i wneud cais i gynllun LCA Cymru. Bydd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n dechrau addysg ôl-16 am y tro cyntaf ac yn astudio mewn rhan arall o’r DU yn gymwys i wneud cais am gynllun LCA Cymru, cyn belled â’u bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd a’r trothwy incwm. Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr hynny sy’n hanu o Gymru ac yn astudio yn Lloegr ar hyn o bryd, gan dderbyn LCA Lloegr, wneud cais fel ymgeiswyr newydd i gynllun LCA Cymru os ydynt am hawlio lwfans yn eu hail a’u trydedd blwyddyn astudio. Bydd modd i unrhyw ddysgwr cymwys sy’n astudio y tu allan i Gymru dderbyn yr LCA cyn belled â bod y ganolfan ddysgu y mae’n astudio ynddi yn rhan o gynllun LCA Cymru. Rydym wedi cysylltu â’r canolfannau dysgu hynny rydym yn gwybod y mae dysgwyr sy’n hanu o Gymru fel arfer yn mynd iddynt er mwyn gweld a ydynt yn fodlon cymryd rhan yn ein cynllun.

Rydym o’r farn bod y newid yn briodol i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar yr holl ddysgwyr ôl-16 yng Nghymru sydd fwyaf mewn angen.