Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn datganiad blaenorol, dywedais wrth aelodau am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r diffygion a nodwyd yn ystod yr arolygiad o wasanaethau addysg ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy. Dywedais y byddwn yn hysbysu Aelodau am y cynnydd o ran y Bwrdd Adfer a sefydlwyd i gefnogi'r awdurdod.

Heddiw rwy'n cyhoeddi penodi dau aelod newydd i'r bwrdd adfer. Maent yn cael eu penodi i gymryd lle'r ddau aelod sydd wedi gadael y Bwrdd yn ystod y misoedd diwethaf. Yr wyf yn penodi Steve Phillips a David Williams

Mae Steve ar hyn o bryd yn Brif Weithredwr Castell-nedd Port Talbot a David oedd cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Reading a Chyngor Durham a chyn aelod a chyn gadeirydd Bwrdd Adfer Sir Benfro.

Yn awr, aelodaeth y bwrdd yw:

Jonathon Morgan – Cadeirydd
Rod Alcott
Steve Phillips
David Williams 

Byddaf yn parhau i hysbysu cydweithwyr am y cynnydd a wneir.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.