Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (y Gronfa) wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda lefelau digynsail o alw mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, ac yna wrth ddarparu cymorth ychwanegol i'r rhai a effeithiwyd pan gollwyd y codiad o £20 i’r Credyd Cynhwysol.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gyflym ac mewn ffordd hyblyg i sicrhau bod y rhai a gollodd eu swyddi neu a gafodd eu heffeithio yn ariannol mewn ffyrdd eraill gan y pandemig yn gallu cael y cymorth roedden nhw ei angen. Arweiniodd y newidiadau hyn at ddwy set wahanol o drefniadau yn ymwneud â mynediad at daliadau brys y mae angen eu symleiddio bellach wrth i ni geisio dygymod â’r argyfwng costau byw a'r pwysau ariannol pellach y mae unigolion a theuluoedd ledled Cymru yn ei wynebu.

Ar sail y dystiolaeth o’r angen a’r galw, llwyddais i sicrhau £18.8m yn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, gan gynyddu cyfanswm cyllideb y Gronfa ar gyfer 23/24 i £38.5m. Bydd y cynnydd hwn yn dod â'r gyllideb ar gyfer 23/24 yn unol â'r lefelau presennol o alw ar y gronfa, gan ganiatáu i ni barhau i gefnogi pobl sy'n agored i niwed yn ariannol yng Nghymru ar adeg pan fo rhai unigolion yn ei chael hi'n anodd cwrdd â'r costau byw mwyaf sylfaenol fel bwyd a thanwydd.

Ers mis Medi 2022 mae natur esblygol yr argyfwng costau byw ac effaith gadarnhaol ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth Llywodraeth Cymru wedi arwain at alw pellach ar y Gronfa, gyda mwy a mwy o unigolion yn troi ati am gymorth ariannol bob mis. Ym mis Ionawr 2023 yn unig, daeth dros 60,000 o geisiadau i'r Gronfa, gan arwain at £4 miliwn mewn grantiau, y gwariant misol uchaf ers i Lywodraeth Cymru sefydlu’r Gronfa yn 2013.

Rwyf wedi bod yn ystyried y ffordd orau o helpu cynifer â phosibl o unigolion agored i niwed yn ariannol sy’n wynebu argyfwng wrth i ni symud i flwyddyn ariannol newydd, yn ystod cyfnod pan fo'r galw'n parhau i gynyddu.

Mae adborth gan randdeiliaid allweddol yn awgrymu bod cael dwy set o reolau ar gyfer taliadau brys drwy'r Gronfa yn broblemus ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n eu cefnogi, felly'r flaenoriaeth wrth symud ymlaen yw symleiddio'r rheolau. Mae rhanddeiliaid hefyd wedi galw am gynyddu gwerth taliadau’r Gronfa yn unol â chwyddiant.

Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn symud i un set o reolau ar gyfer yr holl Daliadau Cymorth mewn Argyfwng, a fydd yn sicrhau tegwch o ran mynediad at y Gronfa. Byddwn hefyd yn codi pob dyfarniad o’r Taliad hwnnw 11%. Bydd hyn yn golygu y gall pob unigolyn wneud cais am Daliad Cymorth mewn Argyfwng hyd at dair gwaith mewn cyfnod treigl o ddeuddeg mis, gyda bwlch o ddim ond saith diwrnod rhwng ceisiadau. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu taliadau gwerth uwch i unigolion dros gyfnod byrrach o amser er mwyn eu cefnogi yn ystod cyfnod o argyfwng, er enghraifft os bydd rhywun wedi colli ei swydd ac yn aros i'r taliad Credyd Cynhwysol cyntaf gyrraedd. I deuluoedd, gallai hyn olygu uchafswm o £111 hyd at dair gwaith y flwyddyn. Gall unrhyw un dros 16 oed sydd mewn sefyllfa argyfyngus gael ei ystyried ar gyfer y taliadau hyn.

Mae elfen y Taliadau Cymorth i Unigolion o’r Gronfa yn parhau i fod ar gael er mwyn helpu dinasyddion agored i niwed i ddechrau byw'n annibynnol am y tro cyntaf, neu barhau i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r ymgeisydd  fod yn derbyn budd-daliadau lles sy'n gysylltiedig ag incwm. Darperir y grant hwn ar ffurf nwyddau gwyn a/neu gelfi sy'n cael eu danfon yn uniongyrchol i'r ymgeisydd. Rhaid i bob cais am Daliad Cymorth i Unigolion gael ei gefnogi gan bartner cofrestredig y Gronfa Cymorth Dewisol. Ni fydd trefniadau ar gyfer grantiau Taliadau Cymorth i Unigolion yn newid.

Dros y dyddiau nesaf, bydd swyddogion yn sicrhau bod unigolion yn ymwybodol bod y Gronfa Cymorth Dewisol yn symud i dri thaliad i bawb, ac yn sicrhau bod y rhai sydd eisoes wedi cael tri thaliad ond sy’n gymwys i gael pump o dan y rheolau presennol oherwydd y categorïau cymhwyso penodol, yn cael digon o amser i wneud cais am eu pedwerydd a'u pumed taliad cyn 31 Mawrth, os oes angen iddyn nhw wneud hynny.

Bydd swyddogion yn trafod gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i egluro’r newidiadau hyn a helpu sefydliadau i hysbysu eu cleientiaid, yn ogystal â sicrhau bod y newidiadau wedi’u gosod yn glir ar dudalennau’r Gronfa Cymorth Dewisol ar y we cyn gynted â phosibl. Hoffwn ddiolch i Sefydliad Bevan am drefnu digwyddiad i randdeiliaid ym mis Mawrth ar y newidiadau hyn.

Er mwyn cynorthwyo i nodi unrhyw fylchau neu broblemau wrth gyrraedd at ddarpariaeth y Gronfa Cymorth Dewisol, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dechrau cyhoeddi nifer y ceisiadau a’r dyfarniadau fesul Awdurdod Lleol bob chwarter o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Bydd unrhyw fylchau a nodir yn cael sylw drwy ein rhwydwaith partneriaid helaeth o fwy na 600 o bartneriaid cofrestredig y Gronfa.

Gwyddom, dros y blynyddoedd anodd diwethaf, fod y Gronfa wedi bod yn achubiaeth lwyr i nifer, gan achub bywydau yn llythrennol mewn cyfnodau o argyfwng. Wrth symud ymlaen, credaf y bydd darparu lefel well o gefnogaeth dros gyfnod byrrach o amser yn helpu unigolion a theuluoedd i roi bwyd ar y bwrdd a chynhesu eu cartrefi ar yr adeg pan fyddant fwyaf agored i niwed.