Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yng ngweddill y DU, rwyf wedi cytuno i wneud y newidiadau canlynol i'r gofynion ar gyfer teithio rhyngwladol:

  • Dileu’r saith gwlad sy'n weddill o'r rhestr goch
  • Ychwanegu 35 o wledydd ychwanegol at y rhestr o wledydd yr ydym yn cydnabod eu brechiadau a'u hardystiadau ar gyfer teithio rhyngwladol.

Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno o 4am ddydd Llun 1 Tachwedd. Bydd rhai newidiadau technegol i'r gofynion gwybodaeth i deithwyr, a rhwymedigaethau darparwyr profion preifat i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion hefyd yn cael eu gwneud.

Bydd newidiadau i'r gofynion profi ar gyfer yr holl deithwyr sydd wedi'u brechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru yn dod i rym o 4am ddydd Sul 31 Hydref.

Bydd pob oedolyn yng Nghymru, sydd wedi cwblhau eu cwrs dau ddos o'r brechlyn Covid-19 a'r rhan fwyaf o blant dan 18 oed, sydd wedi teithio o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch, yn gallu cymryd prawf llif unffordd, ar ddiwrnod dau neu cyn diwrnod dau ar ôl cyrraedd y DU, yn hytrach na phrawf PCR.

Os caiff pobl brawf llif unffordd cadarnhaol ar ôl iddynt ddychwelyd o deithio dramor, bydd yn ofynnol iddynt ynysu am 10 diwrnod a chymryd prawf PCR dilynol.

Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i fabwysiadu dull rhagofalus tuag at ailagor teithio rhyngwladol ond mae wedi penderfynu bwrw ymlaen.  Rydym yn dal i bryderu am y dull hwn a pha mor gyflym y mae teithio rhyngwladol yn cael ei agor, a hynny ar adeg pan fo achosion o’r coronafeirws yn cynyddu gartref a thramor.

Nid yw'r newidiadau hyn heb risg, ac mae SAGE wedi dweud bod esblygiad amrywiolyn na fydd modd i’r brechlyn ei wrthsefyll 'bron yn sicr', a bod y risg o  ddifrifoldeb clinigol uwch yn 'bosibilrwydd realistig'. Rydym hefyd yn pryderu am benderfyniadau niferus Llywodraeth y DU i newid y mesurau iechyd ar y ffin, sy'n amddiffyniadau pwysig i atal y risg o achosion newydd – ac amrywiolion newydd o’r coronafeirws – rhag dod i mewn i'r DU.

Er hynny, mae'n anodd i Gymru fabwysiadu trefniadau gwahanol i'r rhai sy'n ofynnol gan Lywodraeth y DU, gan fod y rhan fwyaf o deithwyr o Gymru yn dod i mewn i'r DU drwy borthladdoedd a meysydd awyr yn Lloegr.

Byddai cael gofynion profi gwahanol yn achosi problemau ymarferol sylweddol, dryswch ymhlith y cyhoedd sy'n teithio, materion logistaidd, trefniadau gorfodi ar ein ffiniau ac anfanteision i fusnesau Cymru.

Nid yw'r pandemig ar ben. Am y rheswm hwn, ein cyngor ni o hyd yw annog pobl i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig.