Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, lansiais y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth.
Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae'r Swyddfa Genedlaethol wedi gwneud y canlynol:
- sefydlu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth i gefnogi gwasanaethau gofal cyson ac o ansawdd uchel;
- datblygu prosesau casglu data newydd i wella ein dealltwriaeth o ddarparu gwasanaethau ymhellach;
- asesu a gweithredu polisïau ar gyfer codi tâl teg a chyfartal er budd pobl sy'n defnyddio gwasanaethau ac awdurdodau lleol;
- gwneud cynnydd sylweddol tuag at wireddu ein gweledigaeth hirdymor o sefydlu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gwneud cynnydd ar ddrafftio fframwaith tâl a dilyniant ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Drwy gydol ei gwaith, mae'r Swyddfa Genedlaethol wedi cydweithio â phartneriaid cyflenwi, gan gynnwys y 22 awdurdod lleol. Mae hefyd wedi sefydlu Grŵp Cynghori Strategol i flaenoriaethu cydgynhyrchu, a sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed a mentrau'n cael eu llunio gan y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Cyn hir, bydd y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol cyntaf, gan fyfyrio ar y flwyddyn bontio ers ei lansio'n ffurfiol ym mis Ebrill 2024.
Mae'r Swyddfa Genedlaethol wedi sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Wrth symud ymlaen, bydd yn parhau i fod wedi ymrwymo i hyrwyddo cysondeb cenedlaethol a gwelliannau i ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Bydd yn parhau i ymgysylltu â'r sector, gan hyrwyddo arferion gorau ac arloesedd i fynd i'r afael ag anghenion esblygol ein cymunedau. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau sector gofal cymdeithasol cynaliadwy sy'n gwasanaethu pobl Cymru yn effeithiol.