Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r system gynllunio'n hanfodol bwysig ar gyfer llwyddiant Cymru a'i heconomi. Rwy'n benderfynol o weld polisi a chyngor cynllunio cenedlaethol yn cefnogi datblygu economaidd ac adfywio, ac yn helpu i greu’r swyddi a chyfoeth sy'n angenrheidiol i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i'n cymunedau. 

Ym mis Tachwedd 2012, cyhoeddais bolisi diwygiedig ar ddatblygu economaidd ym Mholisi Cynllunio Cymru.  Mae Polisi Cynllunio Cymru'n cydnabod pwysigrwydd yr economi gyfan yn hytrach na'r defnydd tir traddodiadol yn unig, ac yn egluro sut y dylai awdurdodau cynllunio lleol gymryd agwedd gadarnhaol tuag at ddatblygu economaidd ar draws Cymru. Mae hefyd yn pwysleisio bod angen cydbwysedd wrth ystyried datblygu economaidd a'i fanteision wrth ochr ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol. 

Heddiw, cyhoeddir Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 23 Datblygu Economaidd.  Mae TAN 23 yn ategu Polisi Cynllunio Cymru drwy roi rhagor o fanylion er mwyn helpu awdurdodau cynllunio lleol i baratoi polisïau Cynlluniau Datblygu Lleol, ac i wneud penderfyniadau   rheoli datblygu ar faterion datblygu economaidd.

Nid yw grymoedd y farchnad yn parchu ffiniau awdurdodau cynllunio lleol, felly mae'n hanfodol cynllunio'n strategol ar gyfer datblygu economaidd.  Ym Mholisi Cynllunio Cymru rwy'n nodi pwysigrwydd sicrhau cydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn TAN 23, sy'n egluro sut i wneud hynny drwy gyfuno sgiliau ac adnoddau a pharatoi astudiaethau economaidd rhanbarthol a sylfaen o dystiolaeth ar y cyd.  Dylai astudiaethau rhanbarthol nodi safleoedd strategol, targedau darpariaeth tir ar gyfer defnyddiau dosbarth B, a sut y bydd y datblygu’n cael ei ddosbarthu ar draws gwahanol awdurdodau cynllunio lleol mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.  Dylai awdurdodau cynllunio lleol geisio llywio datblygiadau i'r lleoliadau mwyaf cynaliadwy.  Os nad oes modd diwallu'r galw mewn ffordd gynaliadwy lle mae'n codi, dylid gwneud hynny o fewn awdurdodau cyfagos.

Mae'r TAN yn cydnabod pwysigrwydd rhoi ystyriaeth briodol i ddatblygu economaidd wrth ochr ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol, ac yn egluro sut gall awdurdodau cynllunio lleol asesu mantais economaidd.  Efallai hefyd bod achosion pan fo cynnig 
yn cael effaith negyddol ar amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol; fodd bynnag, yn hytrach na gwrthod y cynnig dylai awdurdodau lleol yn gyntaf ystyried nifer o gwestiynau: a oes safleoedd eraill ar gael? faint o swyddi fydd yn cael eu creu? ac a fydd datblygiad yn gwneud cyfraniad arbennig i amcanion polisi?

Rwyf wedi cyflwyno prawf cymalog, sy'n adlewyrchu cyngor cynllunio cyfredol ar gyfer defnyddiau megis datblygiadau manwerthu a hamdden. Dylai awdurdodau cynllunio lleol ei ddefnyddio wrth neilltuo safleoedd neu wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer ffurfiau traddodiadol o ddatblygu economaidd. Y dewis cyntaf yw safleoedd o fewn aneddiadau, yna safleoedd ar gyrion aneddiadau, ac yn olaf safleoedd cefn gwlad agored.  Fodd bynnag, bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio'u crebwyll gan ddibynnu ar natur a gofynion penodol pob defnydd.

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig, ac mae'r TAN yn egluro sut, drwy wella'r aliniad rhwng tai a swyddi, mae modd annog pobl i weithio'n agosach i'w cartrefi gan arwain at gymunedau mwy cynaliadwy.  Nodir hefyd swyddogaeth bwysig ailddefnyddio ac addasu adeiladau gwledig sydd eisoes yn bodoli ar gyfer diwallu anghenion ardaloedd gwledig. Disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol fabwysiadu dull cadarnhaol o weithredu wrth drawsnewid adeiladau gwledig at ddefnydd busnes.

Rhaid i ni ofyn am gyfraniad gan y rhai sydd â gwybodaeth am economïau lleol, ac mae'r TAN yn gosod rhestr ddangosol o randdeiliaid y gallai'r awdurdodau cynllunio lleol ddymuno cysylltu â nhw wrth adeiladu tystiolaeth i gefnogi eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Ym Mholisi Cynllunio Cymru, roeddwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddarparu tystiolaeth gadarn i'w defnyddio wrth baratoi eu strategaethau a'u polisïau datblygu economaidd yn eu cynlluniau datblygu.  Mae'r TAN yn rhoi cyngor manylach ynghylch casglu'r data hwn.  Yn y man byddaf yn cyhoeddi canllaw arferion yn benodol am gynnwys a methodoleg paratoi Adolygiadau Tir Cyflogaeth. Dylid defnyddio tystiolaeth hefyd i ddatblygu enghreifftiau o sefyllfaoedd economaidd posib y dylai cynlluniau datblygu eu hystyried, er mwyn iddynt fod yn ddigon hyblyg i addasu yn wyneb amodau economaidd cyfnewidiol dros gyfnod y cynllun.

Rwy'n credu y dylai awdurdodau cynllunio lleol ddatblygu amcan tymor hir ar gyfer eu heconomi leol. Mae'r TAN yn egluro sut y dylid paratoi gweledigaeth ar gyfer eu cynllun datblygu i gyflawni hyn er mwyn i ystyriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gefnogi'i gilydd a mynd i'r un cyfeiriad.  Bydd angen iddynt fod yn gyson gyda strategaethau eraill, fel y Cynllun Integredig Sengl a'r Strategaeth Gymunedol.