Heledd Fychan AS, Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Rhaglen Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion a fydd yn cychwyn o fis Medi 2026.
Fis diwethaf, yn fy natganiad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwylliant a chwaraeon, fe wnes i ailddatgan ein hymrwymiad i wersi nofio yn yr ysgol a sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol gynradd wedi cael y cyfle i ddysgu nofio.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Cynllun Gweithredu Nofio Ysgol 2026–2029, sy'n nodi sut y byddwn yn darparu cynnig cenedlaethol cyson o addysg nofio a diogelwch dŵr i blant ledled Cymru.
Mae'r Llywodraeth hon yn credu bod diwylliant a chwaraeon yn ganolog i greu Cymru iachach, mwy hyderus a mwy ffyniannus. Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall chwaraeon ei wneud i'n hagenda iechyd ataliol, gan helpu plant i ddatblygu arferion gydol oes sy'n cefnogi lles corfforol a meddyliol.
Mae nofio yn sgil achub bywyd ac yn weithgaredd sylfaenol pwysig ar gyfer cyfranogiad gydol oes mewn gweithgarwch corfforol. Fodd bynnag, mae mynediad at nofio ysgol yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Ar hyn o bryd nid yw tua un o bob pump ysgol gynradd a gynhelir yn darparu gwersi nofio, a nifer cymharol fach o blant sy'n manteisio ar gyfleoedd nofio allgyrsiol. I lawer o ddisgyblion, darpariaeth ysgol yw eu hunig gyfle i ddatblygu hyder yn y dŵr, cymhwysedd nofio a sgiliau hunan-achub hanfodol.
Mae rhaglen Nofio Ysgol wedi'i chynllunio i sicrhau dull cenedlaethol clir a chyson. Bydd y rhaglen yn darparu cynnig sylfaenol o 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr i ddisgyblion, yn bennaf ar draws Blynyddoedd 4 a 5, gyda ffocws ar hyder yn y dŵr, hyfedredd nofio ac addysg diogelwch dŵr. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys darpariaeth Swim Safe Cymru, adnoddau ar ddiogelwch dŵr ar gyfer yr ystafell ddosbarth sydd wedi'u halinio â'r Cwricwlwm i Gymru, a chefnogaeth i ddileu rhwystrau i gyfranogiad.
Un o egwyddorion allweddol y rhaglen yw y bydd yn gynnig cyffredinol gyda chefnogaeth ychwanegol wedi'i dargedu. Er y dylai pob dysgwr cymwys gael mynediad at nofio ysgol ac addysg diogelwch dŵr, rydym hefyd wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a all atal cyfranogiad. Felly, bydd cymorth ychwanegol yn cael ei gyfeirio at ddysgwyr a chymunedau sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig, cymunedau difreintiedig, lleoliadau cyfrwng Cymraeg, dysgwyr anabl a'r rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol neu anghenion gofal iechyd.
Gan gydnabod graddfa'r her a phwysigrwydd bod yn gynaliadwy, bydd y broses weithredu yn cael ei chyflwyno'n raddol. O fis Medi 2026 ymlaen, bydd Cam 1 yn dechrau mewn naw awdurdod lleol braenaru, a fydd yn rhoi cyfle i brofi modelau cyflawni, cryfhau capasiti'r gweithlu, gwella casglu data a gwerthuso canlyniadau. Mae dyraniad o £2m yn cael ei ddarparu i gefnogi'r gwaith yn y flwyddyn gyntaf hon. Bydd y rhaglen wedyn yn ehangu i hyd at 16 ardal awdurdod lleol o fis Medi 2027 cyn cyrraedd pob un o'r 22 awdurdod lleol o fis Medi 2028.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru i'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan, gyda chefnogaeth genedlaethol gan Nofio Cymru, sef y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer nofio.
Mae ein huchelgais yn syml ond arwyddocaol. Dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i ddysgu nofio, deall sut i gadw'n ddiogel yn y dŵr ac o amgylch y dŵr, a datblygu sgiliau a allai achub eu bywyd un diwrnod.
Mae cyhoeddi'r cynllun gweithredu hwn yn cyflawni'r ymrwymiad yn ein cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf ac yn nodi dechrau cydweithio ar draws portffolios Gweinidogol a gyda llywodraeth leol, ysgolion a phartneriaid sector i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael mynediad cyfartal i'r sgil bywyd hanfodol hon a'r manteision niferus o ran iechyd, lles a chyfranogiad.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
