Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am gyhoeddi'r Adolygiad Annibynnol o Ordaliadau'r Lwfans Gofalwr gan Liz Sayce OBE, ynglŷn â phryderon bod rhai gofalwyr di-dâl wedi cronni gordaliadau sylweddol drwy fynd dros derfyn enillion y Lwfans Gofalwr, 

Cyhoeddwyd yr adolygiad annibynnol ac ymateb Llywodraeth y DU i argymhellion yr Adolygiad ar 25 Tachwedd. 

Rwyf yn croesawu trylwyredd yr adroddiadau hyn a'r ymrwymiad i wneud newidiadau cadarnhaol pan fo'r system fudd-daliadau wedi gadael pobl i lawr. Canfu'r adolygiad fod camgymeriadau wedi'u gwneud gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wrth gymhwyso'r rheolau ar gyfartaleddu enillion, pan fydd cyflog gofalwyr yn amrywio. Mae hyn yn golygu y gofynnwyd ar gam i rai gofalwyr ad-dalu eu Lwfans Gofalwr. 

Caf ar ddeall y bydd Llywodraeth y DU yn ymgymryd â phroses ailasesu lle y caiff gofalwyr y gofynnwyd iddynt ad-dalu eu Lwfans Gofalwr yn cael ad-daliad. Caiff cynlluniau ar gyfer yr adolygiad hwn eu cyhoeddi gan DWP yn y Flwyddyn Newydd ac rydym yn gofyn i ofalwyr beidio â chysylltu â DWP ar hyn o bryd. 

Er y disgwylir mai cyfran gymharol fach o ofalwyr di-dâl yn unig sydd wedi cael eu heffeithio, bydd hyn wedi bod yn brofiad gofidus iawn a bydd wedi effeithio ar gyllid cartrefi, a oedd eisoes o dan bwysau. Rwyf wedi ysgrifennu at Syr Stephen Timms, y Gweinidog dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd i gael rhagor o wybodaeth am y niferoedd yr effeithir arnynt yng Nghymru. 

Rwyf yn falch bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymchwilio i’r potensial i newid y rheolau ar gyfer y Lwfans Gofalwr, er mwyn lleihau effaith ‘ ymyl y dibyn’. Ar hyn o bryd, mae gofalwyr yn colli eu hawlogaeth os yw eu cyflog yn fwy na'r trothwy enillion, hyd yn oed yn ôl swm bach. Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gofalwyr di-dâl i aros mewn cyflogaeth â thâl, lle bo hynny'n bosibl.

Rydym yn croesawu'r camau pellach sy'n cael eu cymryd i awtomeiddio trin enillion. Dylai hyn leihau'r siawns na fydd gofalwyr yn ymwybodol eu bod wedi mynd dros y trothwy enillion, y mae rhaid iddynt ei ad-dalu pan gaiff ei nodi. 

Mae lwfans gofalwr yn cael ei dalu i ofalwyr di-dâl 16 oed neu hŷn sy'n darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos. Rhaid i'r person sy'n derbyn gofal gael budd-dal anabledd cymwys ac fe gafodd y trothwy enillion ar gyfer gofalwyr mewn cyflogaeth â thâl ei gynyddi yn sylweddol ym mis Ebrill 2025 o £151 i £196 yr wythnos.