Neidio i'r prif gynnwys

Mark Hooper AS, Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cynnal ac adnewyddu hanfodol Cam 2 ar Bont Menai.

Mae'n siom imi orfod cadarnhau bod UK Highways A55 Ltd wedi rhoi gwybod mai yn hydref 2027 y mae disgwyl cwblhau gwaith Cam 2 bellach, oedi pellach o'r dyddiad cwblhau blaenorol sef gwanwyn 2027.

Mae'r llithriad pellach hwn yn annerbyniol. Mae fy swyddogion a minnau wedi mynegi ein pryderon i UK Highways A55 Ltd a'i uwch gynrychiolwyr. Fel y sefydliad sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith hwn, rydym yn disgwyl i UK Highways A55 Ltd fod yn atebol am ei raglen ac i gymryd pob cam rhesymol angenrheidiol i atal unrhyw oedi pellach.

Mae Pont Menai yn strwythur hanesyddol 200 mlwydd oed. Mae'r gwaith yn gymhleth ac wrth iddo fynd rhagddo, daethpwyd ar draws gofynion peirianneg a chynnal a chadw ychwanegol. Bydd UK Highways A55 Ltd yn cyhoeddi'n fuan ddatganiad llawn yn cadarnhau'r oedi a'r rhesymau. 

Rwy'n cadarnhau y bydd y bont yn aros ar agor i gerbydau hyd at 7.5 tunnell tra bo'r gwaith yn parhau, er y bydd angen cyfnodau o reoli traffig pellach o hyd. Mae cydymffurfio â'r cyfyngiad pwysau yn parhau'n hanfodol i sicrhau bod y bont yn ddiogel yn ystod y gwaith.

Rwy'n ailadrodd, mae'r gwaith hwn yn sefyll ochr yn ochr â'n hymrwymiad ehangach i wella gwydnwch ar draws Afon Menai a'r mesurau hynny a gyhoeddais y mis diwethaf. Rydym yn parhau i symud ymlaen â'r gwaith datblygu ar gyfer trydydd bont dros afon Menai ac yn bwrw ymlaen â mesurau i wella gwydnwch Pont Britannia.

Rwy'n sylweddoli y bydd y newidiadau ailadroddus hyn yn y rhaglen yn achosi  rhwystredigaeth a phryderon i drigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddwyn UK Highways A55 Ltd i gyfrif am y gwaith cyflenwi. Rydym wedi ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl i raglen ddiwygiedig hydref 2027 gael ei chyflawni ac na fydd unrhyw lithriad pellach y gellir ei osgoi yn dderbyniol.

Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod Pont Menai yn cael ei chynnal yn ddiogel ac i'r safon sy'n ofynnol i ddiogelu'r strwythur hwn sy'n bwysig yn rhyngwladol, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi wrth i'r gwaith fynd rhagddo.