Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU wedi cadarnhau bod canlyniadau positif a negatif o labordai Goleudy wedi’u hoedi. Rydym yn ceisio eglurhad ar frys gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU ynglŷn ag i ba raddau y mae’r oedi i brofion o labordai Goleudy wedi effeithio ar Gymru.

Mae rheoli trosglwyddiad coronafeirws yn dibynnu ar ganfod ac ynysu achosion positif yn gyflym. Er bod yr oedi yn y system yn amlwg yn peri pryder, mae’r canlyniadau yn cael eu hanfon drwy neges destun at unigolion pan fyddant yn cael eu hawdurdodi. Nid ydym yn credu bod unrhyw oedi wedi bod o ran anfon canlyniadau at unigolion.