Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gosodwyd Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) 2024 ("y Rheoliadau") gerbron Senedd y DU ar 24 Ionawr 2024. 

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 19(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ("y Ddeddf") ([1]).

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod cenedlaethol perthnasol at ddibenion adran 19(1) o'r Ddeddf ([2]).

Pwrpas y Rheoliadau yw diweddaru cyfeiriadau at gyfraith yr UE a ddargedwir mewn is-ddeddfwriaeth o "gyfraith yr UE a ddargedwir " i "gyfraith a gymathwyd" (a thermau tebyg) a gwneud darpariaethau canlyniadol eraill sy'n deillio o Ddeddf 2023. Yn y pen draw, nod y Rheoliadau yw sicrhau eglurder a chydlyniad yn y llyfr statud domestig.

Mae'r Rheoliadau'n cynnwys cymysgedd o ddarpariaethau datganoledig a darpariaethau wedi'u cadw. Fodd bynnag, nid ydynt yn dod o dan Reol Sefydlog 30A gan nad ydynt mewn perthynas â Chymru yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

Rwyf wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn fodlon cytuno i'r Rheoliadau hyn. 

([1])    2023 c. 28.

([2]) Gweler adran 21(2) o Ddeddf 2023 ar gyfer y diffiniad o “relevant local planning authority”.