Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Gofynnwyd am ganiatâd gan Blair McDougall AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol (y Gweinidog dros Fusnesau Bach a Thrawsnewid Economaidd), i wneud Offeryn Statudol (OS) yn diwygio Rheoliadau Darparu Gwasanaethau 2009 ('y PoSRs') mewn ardaloedd datganoledig. Bydd y Rheoliadau yn gymwys i'r DU gyfan. 

Yn wreiddiol, trosodd y Rheoliadau Gyfarwyddeb Gwasanaethau'r UE 2006/123/EC, ac maent yn cynnig fframwaith o reolau ar gyfer y ffordd mae gweithgareddau gwasanaethau'n cael eu rheoleiddio yn y DU. Maent yn sicrhau bod cynlluniau awdurdodi sy'n cael eu gweinyddu gan Awdurdodau Cymwys (CAs) yn gymesur, wedi'u cyfiawnhau er budd y cyhoedd, ac yn cael eu cynnal mewn ffordd deg, hygyrch a thryloyw i fusnesau.

Pwrpas gwneud newidiadau wedi'u targedu i'r Rheoliadau yw gwneud cynlluniau awdurdodi yn fwy tryloyw, effeithlon a chost-effeithiol, a lleihau beichiau rheoleiddio i fusnesau wrth gefnogi agenda fasnach y DU ar yr un pryd. 

Yn gryno, mae'r diwygiadau a gynigir yn cynnwys chwe maes. Bydd pump ohonynt yn cael eu gweithredu gan yr OS ac un yn cael ei weithredu gan fesurau nad ydynt yn ddeddfwriaethol.

Diwygiadau i'w gweithredu gan yr OS:

  • Ehangu manteision y Rheoliadau Darparu Gwasanaethau i unrhyw un waeth beth fo'u cenedligrwydd neu eu sefydliad. 
  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys gyflwyno gwybodaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol am drefniadau awdurdodiad dealledig, gan gynnwys pan nad yw awdurdodiad dealledig  yn gymwys, i nodi'r rheswm er budd y cyhoedd dros beidio â'i gymhwyso. 
  • Ychwanegu gofyniad i awdurdodau cymwys sy'n rhedeg cynlluniau awdurdodi roi gwybod i ymgeiswyr am statws a chanlyniad eu cais.    
  • Cynyddu hyblygrwydd y broses ymgeisio, er enghraifft, drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys dderbyn ceisiadau am drwydded drwy gydol y flwyddyn.    
  • Egluro fod awdurdodau cymwys wedi'u gwahardd rhag codi ffioedd ar adeg y cais sy'n cynnwys costau rheoli a gorfodi'r cynllun awdurdodi'n barhaus.   

Diwygiadau i'w gweithredu gan fesurau nad ydynt yn ddeddfwriaethol: 

  • Ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth benodol gael ei diweddaru ar yr offeryn Dod o hyd i Drwydded a/neu wefan yr awdurdod cymwys, gan wneud y rhestr o'r wybodaeth sydd i'w darparu yn fwy cynhwysfawr. Nid yw'r diwygiad hwn wedi'i gynnwys yn yr OS gan fod opsiynau nad ydynt yn ddeddfwriaethol yn cael eu cynnig gan lywodraeth y DU i sicrhau bod gwybodaeth yn parhau i fod yn gyfredol, megis cyhoeddi nodiadau atgoffa blynyddol i awdurdodau cymwys i'w hannog i wirio a diweddaru cynnwys a chynnal archwiliadau rheolaidd.

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 6 Mawrth 2026 drwy arfer pwerau cydamserol yr Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 12(1), 14(2) a 20(1) o Ddeddf Cyfraith yr UE a Gedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (y "Ddeddf REUL". Os cânt eu cymeradwyo gan y Senedd, bydd y Rheoliadau yn cael eu gwneud ar 1 Hydref 2026 a byddant yn dod i rym ar yr un diwrnod.

Unrhyw effaith y gall yr offeryn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:

Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod cymwys o dan y PoSRs ac felly mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r Rheoliadau o ran sut maent yn rheoleiddio darparwyr gwasanaeth. Mae'r diwygiadau yn gosod gofynion newydd ar awdurdodau cymwys mewn cysylltiad â chynlluniau awdurdodi ar gyfer darparwyr gwasanaeth, a bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r gofynion newydd hyn hefyd. 

Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud a'i diwygio yng Nghymru, y tro hwn, ystyrir ei bod yn briodol i roi cysyniad.

Mae Egwyddorion Llywodraeth Cymru ar Ddeddfwriaeth y DU mewn Meysydd Datganoledig yn dweud y dylai is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig gael ei gwneud gan Weinidogion Cymru pan fydd cymhwysedd gweithredol. Fodd bynnag, mae'r egwyddorion yn mynd yn eu blaen i ddweud y, 'Gall sefyllfaoedd godi hefyd pan fyddai hi er budd gorau Cymru i ddarpariaeth ddeddfwriaethol ar ffurf is-ddeddfwriaeth a fyddai o fewn cymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru gael ei gwneud gan Weinidogion Llywodraeth y DU, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Yn benodol, pan fydd deddfwriaeth y DU yn cwmpasu materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl, a dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni amcanion polisi, efallai y bydd yn briodol i weinidogion Llywodraeth y DU weithredu.

Yn ogystal, mae cyfiawnhad clir dros gefnogi cydsyniad i Offeryn Statudol y DU:

  • Nid yw'r newidiadau hyn yn flaenoriaeth bolisi i Lywodraeth Cymru ac felly nid yw'n synhwyrol defnyddio adnoddau i wneud y ddeddfwriaeth ein hunain. Ni fyddai Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud y newidiadau hyn o'i dewis ei hun o ystyried y buddion lleiaf y gellir disgwyl eu gwireddu.
  • Efallai y bydd y manteision i fusnesau yn fach, ond maent yn bodoli, a gallent gael effaith ar fusnesau bach drwy leddfu unrhyw anawsterau y gallai rhai eu hwynebu wrth wneud cais am awdurdodiadau gan awdurdodau cymwys.
  • Nid oes rheswm dros wrthwynebu'r newidiadau o safbwynt polisi.

O ganlyniad, mae'n synhwyrol caniatáu i lywodraeth y DU wneud y newidiadau arfaethedig mewn meysydd datganoledig fel y gall Cymru wireddu manteision bach i'n busnesau heb i Lywodraeth Cymru orfod defnyddio ei hadnoddau.

Mae'r Rheoliadau Darparu Gwasanaethau (Diwygio a Darpariaeth Drosiannol) 2026 ar gael yma (dolen allanol, Saesneg yn unig)