Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae datblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu ac yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae'r ddarpariaeth yn cael ei datblygu drwy gydweithio rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ers fy niweddariad diwethaf i'r Aelodau, bu nifer o ddatblygiadau pellach o ran dyluniad y model. Bydd ganddo dair nodwedd benodol, gyda chefnogaeth oriel ar-lein:

  1. Bydd rhwydwaith o orielau ledled Cymru yn darparu mynediad am ddim i'r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn nes at gymunedau.
  2. Bydd orielau lletya sy’n lletya’r casgliad cenedlaethol o gelf Cymru.
  3. Bydd oriel angor yn darparu wyneb cyhoeddus amlwg i'r oriel gelf gyfoes genedlaethol.

Mae'r casgliad cenedlaethol yn perthyn i bawb yng Nghymru. Bydd y model unigryw hwn yn caniatáu i bobl archwilio'r casgliad yn eu cymunedau lleol, gan hefyd sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru, y DU a hyd yn oed yn rhyngwladol yn gallu cael mynediad at y casgliad cenedlaethol. Bydd yn helpu i roi hwb i'r economi ymwelwyr ac yn cefnogi swyddi a busnesau lleol.

Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i ddatblygu'r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, gan gynnwys datblygu gwefan Celf ar y Cyd, a fydd yn rhoi mynediad i'r cyhoedd at y casgliad cenedlaethol o'u cartref. Bydd dros 30,000 o ddelweddau celf ar gael o'r wefan o ddechrau Mehefin. Mae llawer ohonynt heb gael eu harddangos yn gyhoeddus erioed o'r blaen.

Mae naw lleoliad wedi cyrraedd y rhestr fer fel aelodau o'r rhwydwaith o orielau lle gall pobl weld y casgliad cenedlaethol yn agos at eu cartrefi. Mae pob un o'r lleoliadau yn cael eu hasesu’n fanylach.

Dyma'r lleoliadau:

  • Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
  • Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
  • MOSTYN, Llandudno
  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
  • Oriel Davies, y Drenewydd
  • Oriel Myrddin, Caerfyrddin
  • Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
  • Canolfan Grefft Rhuthun
  • STORIEL, Bangor

Yr orielau lletya yw’r rheini sydd naill ai'n lletya’r casgliad cenedlaethol ar hyn o bryd neu'n bwriadu ei letya ac sy'n rhan o’r seilwaith presennol yng Nghymru. Yn eu plith mae safleoedd Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd ac o bosibl yn Llanberis a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth. Bydd eu cynnwys yn cynyddu mynediad pellach at gelf gyfoes o Gymru.

Ym mis Medi 2022, cawsom gyfanswm o 14 o ddatganiadau o ddiddordeb gan y sector cyhoeddus i fod yn safle angor i'r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol. Gwahoddwyd pum ardal awdurdod lleol – Wrecsam, Abertawe, Merthyr Tudful, Casnewydd a Chaerdydd – i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach. Byddwn yn cael y cynlluniau manylach yn ddiweddarach y mis hwn.

Ym mis Chwefror 2023, gwahoddwyd y trydydd sector hefyd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer unrhyw safleoedd sy'n cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol. Cyflwynwyd dau ddatganiad o ddiddordeb a bydd y rhain nawr yn cael eu hasesu.