Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ym mis Mai 2025, cyhoeddais fy mod yn comisiynu asesiad sicrwydd Cymru gyfan o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol i asesu diogelwch ac ansawdd ein gwasanaethau.
Mae'r asesiad sicrwydd cenedlaethol hwn yn rhan o gyfres o ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt er mwyn sicrhau bod y rhaglen cymorth diogelwch mamolaeth a newyddenedigol yn parhau i fod yn gyfredol ac yn ymatebol i dystiolaeth newidiol ar wella canlyniadau. Bydd yn canolbwyntio ar asesu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru yn erbyn y meini prawf yn y Datganiad Ansawdd Cenedlaethol a'r Safonau Ansawdd. Bydd yn nodi meysydd arfer da a'r meysydd lle y gall fod risg neu bryder gweddilliol mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol.
Rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o deuluoedd eisiau i adolygiad llawn o'r holl wasanaethau mamolaeth gael ei lansio fel y cam nesaf, yn hytrach na'r asesiad sicrwydd yr wyf wedi'i gychwyn. Rwy'n deall y pryderon hynny; fodd bynnag, mae angen sicrwydd amser real arnaf ynghylch diogelwch ein hunedau, a'r asesiad hwn yw'r ffordd orau o gael hynny. Os yw'r Panel Goruchwylio Asesiad Sicrwydd Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn argymell cynnal adolygiadau pellach, naill ai ar lefel safle neu ar lefel genedlaethol, yna byddaf yn ystyried yr argymhellion hynny'n ofalus. Rwy'n cynnig rhoi cyfle i deuluoedd gwrdd â mi pan fydd y Panel yn gwneud ei argymhellion fel y gallwn drafod y camau nesaf.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r penodiadau i'r Panel Goruchwylio Asesiad Sicrwydd Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol, a fydd yn grŵp sydd wedi ei gyfyngu i amser penodol ar gyfer darparu asesiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
Mae hwn yn grŵp o unigolion sydd ag arbenigedd cenedlaethol yn eu priod feysydd, a fydd yn ein cefnogi yn ein hymdrechion i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
Bydd yn rhoi sicrwydd allanol i Weinidogion Cymru ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, gan wneud argymhellion ar gyfer datblygu a gwella gwasanaethau yn y dyfodol. Mae hon yn broses strwythuredig, lle y bydd aelodau'r panel yn asesu, yn barnu, ac yn gwerthuso ansawdd gwasanaethau ar draws Cymru yn erbyn safon ddiffiniedig.
Mae'r amserlen ar gyfer yr asesiad hwn yn fwriadol dynn gan fod angen imi gael sicrwydd yn ddi-oed.
Wrth wraidd yr asesiad sicrwydd hwn bydd lleisiau a phrofiadau menywod a theuluoedd y mae eu safbwyntiau yn ganolog i ddeall ansawdd, diogelwch a diwylliant ein gwasanaethau. Rydym wedi penodi arweinydd ar brofiad y claf sy'n uchel ei barch ac sydd â dealltwriaeth drylwyr o'r maes, a fydd yn sicrhau bod lleisiau menywod a theuluoedd yn rhan annatod o'r asesiad hwn.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r penodiadau canlynol:
Yr Athro Sally Holland (Cadeirydd)
Mae Sally yn academydd blaenllaw ym maes gofal cymdeithasol, gydag arbenigedd mewn lles plant a theuluoedd, amddiffyn plant, cyfranogiad y cyhoedd a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rhwng 2015 a 2022, hi oedd Comisiynydd Plant Cymru. Hi hefyd oedd cyfarwyddwr cyntaf CASCADE - Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, sef y ganolfan fwyaf o'i math yn y DU erbyn hyn. Mae hi'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig ac ar ddechrau ei gyrfa bu'n gweithio yn y sectorau statudol a gwirfoddol.
Heidi Smoult (Aelod)
Mae gan Heidi arbenigedd mewn adolygiadau ansawdd, ymchwiliadau i ddigwyddiadau, materion rheoleiddio i sbarduno gwelliannau mewn gofal iechyd, diogelwch, gwella, a datblygu arweinyddiaeth. Roedd hi'n Brif Weithredwr yn Ysbyty Cyffredinol Northampton y GIG, a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Brif Arolygydd yn y Comisiwn Ansawdd Gofal, lle'r oedd yn atebol am sicrhau bod y GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol yn cael eu rheoleiddio'n effeithiol. Roedd Heidi wedi cael cyfoeth o brofiad iechyd a gofal cyn hynny, gan ddechrau ei gyrfa fel bydwraig cyn symud i rolau gweithredol.
Sue Holden (Aelod)
Mae Sue yn Gadeirydd Advancing Quality Alliance (Aqua), ar ôl cyflawni'r swydd o Brif Swyddog Gweithredol yno cyn hynny. Cyn hyn, hi oedd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Cymorth Dwys yn GIG Lloegr ac NHS Improvement, ac mae wedi cyflawni sawl rôl yn arwain ar welliant cenedlaethol yn ei gyrfa yn y GIG, ac mae'n dod ag egni a brwdfrydedd a fydd yn sbarduno gwella parhaus. Cafodd ei hyfforddi fel nyrs ac wedyn fel bydwraig, a bu'n gweithio'n glinigol am dros 15 mlynedd cyn datblygu ei diddordeb mewn datblygiad gweithredol a dysgu.
Dr Edile Murdoch (Aelod)
Ers 25 mlynedd, mae Edile wedi bod yn neonatolegydd ymgynghorol yn Lothian Caeredin y GIG, a chyn hynny yn Ysbyty Addenbrooke, Caergrawnt. Bu'n Gyfarwyddwr Clinigol gwasanaethau obstetreg a newyddenedigol yn GIG Lloegr a GIG yr Alban, ac yn arweinydd rhwydwaith newyddenedigol. Mae hi'n un o'r cynghorwyr arbenigedd cenedlaethol ar gyfer rhaglen mamolaeth a newyddenedigol Gweithrediaeth y GIG ac yn arweinydd clinigol ar gyfer y rhaglen system signalau canlyniadau mamolaeth. Roedd hi'n gadeirydd grŵp adolygu digwyddiadau niweidiol rhwydwaith amenedigol yr Alban a chyd-gadeirydd gweithgor gofal lliniarol amenedigol Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain (BAPM). Mae hi'n diwtor cyfathrebu ac yn gyfryngwr hyfforddedig.
Ken Sutton (Aelod)
Mae Ken wedi dal rolau uwch yn y Swyddfa Gartref, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Troseddu a Phlismona. Fe wasanaethodd fel Ysgrifennydd i Banel Annibynnol Hillsborough, ac roedd yn Ysgrifennydd i'r Ymchwiliad Annibynnol i Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn Nwyrain Caint. Roedd yn gynghorydd i adolygiad annibynnol o batholeg fforensig.
Dr Jo Mountfield (Aelod)
Mae Jo wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl bod yn Obstetregydd ymgynghorol ers dros 20 mlynedd. Bu'n Gyfarwyddwr Addysg yn Ysbyty Athrofaol Southampton ers 2006. Mae hi'n gyn-Gadeirydd y pwyllgor cynghori ar addysg arbenigol yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr. Roedd hi'n Gymrawd Arweinyddiaeth y Sefydliad Iechyd, ac yn gyn Is-lywydd yng Ngholeg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr.
Yr Athro Mary Renfrew (Aelod)
Cyn ymddeol, roedd Mary yn ymchwilydd iechyd blaenllaw, gyda chefndir clinigol mewn bydwreigiaeth. Mae hi wedi treulio dros 40 mlynedd yn ymchwilio i fwydo babanod, maeth, bydwreigiaeth a gofal mamolaeth, gan ddylanwadu ar bolisi, ymarfer a dealltwriaeth y cyhoedd ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae hi wedi cynghori adrannau'r llywodraeth a sefydliadau byd-eang, gan gynnwys WHO ac UNICEF, a hi oedd Cynghorydd Arweiniol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer safonau hyfedredd bydwragedd. Yn ddiweddar, arweiniodd yr Adroddiad Annibynnol ar fydwreigiaeth a gwasanaethau mamolaeth ehangach yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r grŵp yn dod â chyfoeth o brofiad o bob rhan o wasanaethau iechyd gwladol eraill, a bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Medi 2025. Bydd yn rhoi cyngor cychwynnol imi erbyn 31 Rhagfyr 2025.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
