Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhaid i'n hymagwedd at newid yn yr hinsawdd fod yn un ar sail gwybodaeth wyddonol felly rwy'n falch o groesawu adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar effeithiau newid yn yr hinsawdd 1.5°C. Dyma'r asesiad gorau o'r holl wybodaeth sydd ar gael am y pwnc; mae'n asesiad beirniadol o filoedd o astudiaethau ledled y byd. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog Gwladol y DU dros Ynni a Thwf Glân i gymeradwyo comisiwn ar y cyd ar gyfer cael cyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd mewn perthynas â sut y gall y dystiolaeth yn adroddiad IPCC effeithio ar ein targedau lleihau allyriadau tymor hir.

Mae'r adroddiad yn nodi bod y byd eisoes 1°C yn gynhesach na chyn y cyfnod diwydiannol a bod y rhan fwyaf ohono, os nad i gyd, o ganlyniad i weithgareddau dynol. Rydym eisoes wedi gweld tymheredd a glaw eithafol o ganlyniad i hyn. Os bydd y duedd hon yn parhau, byddwn yn cyrraedd 1.5°C oddeutu 2040, fydd yn arwain at effeithiau negyddol difrifol i fodau dynol a'r amgylchedd. Mae'r adroddiad yn nodi bod manteision lluosog o gyfyngu cynhesu i 1.5°C, o'i gymharu â 2°C. Byddai 1.5°C yn golygu llai o risg o ran prinder bwyd a diod, llai o fygythiad i iechyd bodau dynol, a llai o golled o ran twf economaidd a llai o rywogaethau mewn perygl o ddifodiant. Byddai'r effeithiau'n digwydd yn arafach, gan roi mwy o gyfle i gymunedau addasu. Byddwn yn cyhoeddi Cynllun Addasu Cymru ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd er mwyn ymgynghori arno ym mis Rhagfyr eleni, fydd yn canolbwyntio ar y risgiau allweddol i Gymru. Ei nod hefyd fydd gwella cydnerthedd o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Nid yw'r addunedau presennol o dan Gytundeb Paris yn ddigon i fodloni ei nodau tymheredd tymor hir. Os ydym am fodloni'r nodau, rhaid i wledydd gynyddu eu hymdrechion yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael ag allyriadau yn y degawd nesaf. Dyna pam y gwnes i ac arweinwyr eraill fynd i'r Uwchgynhadledd Fyd-eang ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Medi er mwyn hyrwyddo rôl taleithiau a rhanbarthau. Yng Nghymru rydym eisoes wedi gosod targed mewn deddfwriaeth i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan o leiaf 80% erbyn 2050 ac mae'n gofyn i aelodau osod targedau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040 mewn rheoliadau yn ddiweddarach eleni. Mae'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn cydnabod bod gostyngiad o 80% yn fwy heriol yng Nghymru nag yn y DU cyfan. Mae'r rhan fwyaf o'n hallyriadau yn deillio o'r sector masnachu, lle mae allyriadau yn ddarostyngedig i amrywioldeb blynyddol sylweddol fel y gwelwyd yn nata 2016. Mae ychydig iawn o ysgogiadau polisi datganoledig ar gyfer mynd i'r afael â'r allyriadau hyn. Fodd bynnag, mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud er mwyn mynd i'r afael â'r allyriadau sydd ar ôl. Cynhaliwyd ein hymgynghoriad ar 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030', am ddeuddeg wythnos a daeth i ben ar 4 Hydref. Roedd yn cynnwys 32 cam gweithredu posib er mwyn bodloni ein targed arfaethedig o ostyngiad 45% erbyn 2030 yn erbyn gwaelodlin 1990.

Mae cymryd rhan yn hanfodol os ydym am fodloni'r her. Dros yr haf gwnaethom gynnal digwyddiadau yng Nghaerdydd a Llandudno, cysylltu â'r cyhoedd yng Nghastell Caerffili, cynnwys pobl ifanc, cynnal gweminar gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a hyrwyddo'r ymgynghoriad ar Twitter. Cawsom dros 200 o ymatebion a bron 100 o ymatebion i'r fersiwn i bobl ifanc. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymateb. Rydym bellach yn dadansoddi'r ymatebion a byddwn yn cyhoeddi adroddiad cryno ddechrau mis Tachwedd. Mae'n bwysig bod yr ymatebion hyn yn cael eu bwydo i ddatblygiad ein cynllun cyflawni a ddisgwylir ym mis Mawrth 2019 ac unrhyw gynlluniau cyflawni dilynol.

Fodd bynnag, nid yw camau gweithredu Llywodraeth Cymru yn ddigon. Mae gan bawb rôl i'w chwarae ac mae heddiw yn nodi dechrau'r Wythnos Prydain Fawr Werdd gyntaf. Bydd yn wythnos o weithgareddau ledled y DU er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd sy'n deillio o dwf glân ac i ddangos sut y gall busnesau a'r cyhoedd helpu. Mae enghreifftiau gwych o ddatgarboneiddio yng Nghymru, sydd nid yn unig yn cyflawni gostyngiadau allyriadau ond sydd hefyd yn achosi manteision lluosog megis cyfleoedd i fusnesau, manteision iechyd ac aer a dŵr glanach. Fel rhan o Wythnos Prydain Fawr Werdd rydym am gasglu'r enghreifftiau hyn er mwyn eu cynnwys yn ein Cynllun Cyflawni a helpu i rannu'r hyn a ddysgwyd ac i ysbrydoli arloesedd a gweithredu. Byddaf yn gofyn i randdeiliaid ledled Cymru ein helpu i dynnu sylw at y gweithredoedd ysbrydoledig ledled y wlad.

Mae’r ddogfen ar gael ar y ddolen ganlynol: http://report.ipcc.ch/sr15/pdf/sr15_spm_final.pdf (yn Saesneg yn unig)<?xml:namespace prefix = "o" ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" />