Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar 12 Gorffennaf 2011, gwnaeth Prif Weinidog Cymru ddatganiad am Raglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cynigion ar gyfer Bil Addysg yn 2012.  
Heddiw (2 Gorffennaf 2012), rwy'n cyhoeddi Papur Gwyn i holi barn ar y cynigion ar gyfer Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru).  Bydd y Bil yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â'r canlynol:     

Addysg Bellach

  • offeryn ac erthyglau llywodraethu
  • diddymu ac uno corfforaethau
  • mwy o ryddid i golegau fenthyg arian
  • ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru

Addysg Uwch 

  • diwygio swyddogaethau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • pwerau i gyllido'n uniongyrchol ddarpariaeth addysg uwch i gefnogi partneriaethau a gweithgarwch ar y cyd
  • sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch a'i gwella
  • cyllido undebau myfyrwyr a siarteri myfyrwyr pwrpasol.
Bwriad y darpariaethau addysg bellach yw rhoi mwy o ryddid i golegau addysg bellach (AB) yng Nghymru, yng ngoleuni camau a gymerwyd yn ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu colegau AB fel rhan o'r Llywodraeth ganolog at ddibenion Cyfrifon Gwladol. Mae dosbarthiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael ei benderfynu i raddau helaeth yn ôl graddau rheolaeth y Llywodraeth ar sefydliadau AB.  Am resymau ariannol a gweithredol, nid yw Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd ag ailddosbarthu colegau AB.  Rwyf felly yn bwriadu, drwy ddeddfwriaeth, roi mwy o ryddid i golegau yn y meysydd allweddol uchod, a cheisio gwrthdroi'r ailddosbarthu ac ailsefydlu colegau fel sefydliadau dielw sy'n gwasanaethu aelwydydd (NPISH).  
Mae llacio'r pwerau hyn yn golygu y caiff yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad annibynnol ar lywodraethu AB a gyhoeddwyd ym Mawrth 2011, a oedd yn hyrwyddo model llywodraethu mentrau cymdeithasol, bellach yn cael eu gweithredu mewn colegau ar sail wirfoddol. Mae Colegau Cymru wedi rhoi gwarant y byddant yn parhau i hyrwyddo adroddiad Humphreys fel model o arfer da.  Byddaf hefyd yn ailsefydlu'r arfer o gadw lleoedd i staff ar fyrddau colegau i sicrhau bod rôl yn dal i fod gan staff colegau yn y gwaith o lywodraethu beth bynnag fo'r trefniadau a ddilynir gan golegau.Mae'r darpariaethau addysg uwch rwyf yn eu cynnig yn y Bil hwn yn adlewyrchu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a'r trefniadau newydd ar gyfer cyllido addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr. Bydd y cynigion hyn yn gofalu bod gan Gymru sector addysg uwch cryf a chystadleuol sy'n addas i'r diben ac sy'n cael ei ariannu'n effeithiol.