Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar ein cynigion deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) at ddibenion ymgynghori ar 22 Mai 2014. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 25 Gorffennaf 2014 a chafwyd 215 o ymatebion.  

Gofynnodd yr ymgynghoriad am adborth ynghylch ein cynigion i greu: 

  • Fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, 
  • Proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol; 
  • System deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad ysgrifenedig cynhaliwyd gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc a’u rhieni. Daeth 174 o blant a 55 o rieni a gofalwyr i’r gweithdai hyn.  

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad ac a fu’n rhan o’r gweithdai.  

Rwy’n cyhoeddi heddiw grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r safbwyntiau a gafodd eu mynegi yn y gweithdai. Mae’r dogfennau hyn ar gael yn awr ar dudalennau ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru.

Rwy’n falch iawn fod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn bositif ar y cyfan a bod yr ymatebwyr, at ei gilydd, yn cefnogi’r cynigion. Calonogol yw clywed bod y rhan fwyaf o’r rhai a ymatebodd yn cytuno y byddant yn creu gwell system ar gyfer cefnogi dysgwyr sydd ag ADY.  

Gwnaeth yr ymgynghoriad dynnu sylw at rai pwyntiau pwysig a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro sut yr ydym yn mynd i’r afael â’r rhain.

  • Roedd peth ansicrwydd ynghylch sail gyfreithiol y Cynlluniau Datblygu Unigol arfaethedig. Hoffwn bwysleisio mai’r bwriad yw sicrhau y byddant yn diogelu dysgwyr ar lefel statudol i’r un graddau â’r Datganiadau presennol o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Bydd y cynlluniau hyn hefyd yn diogelu grŵp ehangach o ddysgwyr na’r rhai sydd â hawl i ddatganiad o AAA ar hyn o bryd.
  • Teimlai rhai ymatebwyr nad oedd y cynnig i’w gwneud hi’n ofynnol i Sefydliadau Addysg Bellach, ysgolion a gynhelir a meithrinfeydd wneud pob ymdrech i sicrhau darpariaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol yn ddigon cadarn. Cafodd y term ‘pob ymdrech’ ei ddefnyddio yn y Papur Gwyn oherwydd mai dyma’r term deddfwriaethol presennol a gaiff ei ddefnyddio mewn perthynas ag ysgolion, a dyma’r hyn yr ydym yn cynnig ei estyn i Sefydliadau Addysg Bellach. Efallai y caiff y ddarpariaeth ddeddfwriaethol derfynol ei geirio’n wahanol, ond bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar hyn. Rhagwelir y bydd y Cod arfaethedig yn darparu canllawiau ynghylch sut y disgwylir i’r ddyletswydd hon gael ei gweithredu’n ymarferol.  
  • Mynegwyd pryderon y gallai’r cynnig i gyflwyno cynlluniau statudol ar gyfer dysgwyr hyd at 25 mlwydd oed sydd ag ystod ehangach o anghenion na’r rhai sydd â Datganiadau o AAA ar hyn o bryd olygu bod llai o adnoddau ar gyfer cefnogi’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf. Fodd bynnag, mae plant a phobl ifanc mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach sydd ag anghenion amrywiol iawn eisoes yn cael eu hasesu ac yn derbyn cefnogaeth a chaiff hyn oll ei gofnodi a’i adolygu mewn gwahanol gynlluniau statudol ac anstatudol. Nod ein cynigion yw ceisio uno’r strwythur deddfwriaethol drwy greu cynllun unigol yn lle pob cynllun arall o’r fath sydd â’r un hawliau statudol, pa bynnag mor gymhleth yw’r angen neu beth bynnag yw’r lleoliad addysg.
  • Galwodd rhai pobl am hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch defnyddio’r system newydd. Mae’r Papur Gwyn yn disgrifio ein bwriad i sicrhau y bydd rhaglen o waith hyrwyddo a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol o fewn yr holl asiantaethau perthnasol sy’n cydweithio â phlant a phobl ifanc ag ADY yn cyd-fynd â’r broses o gyflwyno’r diwygiadau a’r Cod Ymarfer newydd. Rydym hefyd yn gwneud gwaith pellach er mwyn sicrhau bod pawb yn deall egwyddorion ymarfer sy’n canolbwyntio ar y person a’u bod yn cael eu gweithredu mewn perthynas â’r system AAA bresennol. Caiff hyn ei wneud mewn partneriaeth â’r rhai sy’n cydweithio fwyaf â’r dysgwyr hynny.
  • Roedd cryn gefnogaeth i’r cynigion ar gyfer creu Cod a fyddai’n cynnwys gofynion gorfodol er mwyn sicrhau y byddai pob asiantaeth sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADY yn cydweithio’n effeithiol. Ein bwriad yw cyhoeddi Cod yn cynnwys gofynion gorfodol a chanllawiau statudol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn y broses o ddatblygu’r Cod, ar y cyd â’m swyddogion.  

Caiff yr ymatebion sydd wedi’u cyflwyno eu hystyried yn ofalus a byddant yn sail i’r gwaith o ddatblygu’r ddeddfwriaeth y bwriedir ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru erbyn haf y flwyddyn nesaf. Bydd y costau sydd ynghlwm wrth y diwygiadau arfaethedig yn cael eu disgrifio yn yr adran Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r Memorandwm Esboniadol a gaiff ei gyhoeddi adeg cyflwyno’r Bil.