Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Heddiw, rwyf wedi lansio Papur Gwyrdd - Gweithio Gyda’n Gilydd dros Gymru: Gweithlu’r Gwasanaeth Cyhoeddus i geisio barn ar gynigion i gyflawni’r uchelgeisiau o ran Gweithlu’r Gwasanaethau Cyhoeddus a nodir yn Gweithio Gyda’n Gilydd dros Gymru – Fframwaith Strategol ar gyfer Gweithlu Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. 

Mae’r Fframwaith yn nodi gweledigaeth o wasanaeth cyhoeddus Cymru-gyfan sy’n cydnabod ymroddiad a rhagoriaeth gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus gan ddeall bod ymddiried a magu hyder yn bwysig er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n perfformio’n dda. Mae’r Papur Gwyrdd newydd hwn ar Weithlu’r Gwasanaeth Cyhoeddus yn mynd law yn llaw â’r Fframwaith. 

Er mwyn cyflawni’r amcanion a nodir yn y Fframwaith Strategol, mae’r Papur Gwyrdd yn cynnig deddfwriaeth yn y meysydd canlynol:

  • Rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru i gyflwyno canllawiau statudol ar faterion sy’n effeithio ar y gweithlu gwasanaeth cyhoeddus datganoledig gan gynnwys proses lywodraethu ar gyfer mabwysiadu’r cytundebau a fydd yn deillio o Gyngor Partneriaeth y Gweithlu.
  • Rhoi dyletswydd ar sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus datganoledig i hyrwyddo a chymhwyso gweithio mewn partneriaeth wrth iddo effeithio ar faterion yn ymwneud â’r gweithlu
  • Cod Dwy Haen a TUPE (Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth)) ar gyfer sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 31 Gorffennaf 2012 a byddaf yn ystyried ymatebion i benderfynu ar y camau nesaf.