Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, cyhoeddodd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW) adroddiad ar sut gellir trosglwyddo’r arfer da a ddatblygir gan gyrff y sector cyhoeddus at sefydliadau eraill. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n arbennig ar sut gellir trosglwyddo’r gwersi a ddysgwyd o brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed at eraill. Mae’r adroddiad ar gael drwy’r ddolen isod:

http://ppiw.org.uk/files/2014/11/PPIW-Report-A-Shared-Responsibility-Maximising-Learning-from-the-Invest-to-Save-Fund.pdf

Paratowyd yr adroddiad ar ran PPIW gan Dr James Downe o Ysgol Fusnes Caerdydd ac mae’n cyflwyno syniadau ynghylch pam bod rhwystrau’n bodoli rhag lledaenu arfer da a sut gellir goresgyn y rhwystrau hyn. Agorodd rownd geisiadau ddiweddaraf Buddsoddi i Arbed ar 78 Hydref a bydd yn cau ddechrau mis Ionawr. Bwriad yr adroddiad hwn gan PPIW yw llywio datblygiad cynlluniau ar gyfer cymorth Buddsoddi i Arbed a phenderfyniadau ar ba gynlluniau fydd yn derbyn cyllid. Mae fy swyddogion eisoes wedi cwrdd â chynrychiolwyr o GIG Cymru, llywodraeth leol a’r sector addysg bellach i’w gwneud yn ymwybodol o’r cynllun a’u hannog i rannu dysgu.  

Y bore yma, cynhaliais ddigwyddiad gydag uwch-swyddogion o bob maes yn y sector cyhoeddus, a dynnodd sylw at yr ymchwil gan Dr Downe a’r adroddiad a luniwyd gan PPIW.  Mae momentwm yn codi ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ynghylch dysgu oddi wrth ein gilydd â rhannu arfer gorau yn rheolaidd a sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru yn elwa ar y gwelliannau o ran darparu gwasanaethau a ddaw o rannu cyfleusterau fel hyn.    

Byddaf yn rhoi’r diweddaraf i’r Aelodau yng ngwanwyn 2015 ynghylch manylion y prosiectau a fydd yn cael eu hariannu yn 2015-16.