Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Prif Weinidog a minnau eisoes wedi cyhoeddi ein bwriad i ystyried diwygio Mesur y Gymraeg 2011. Mae’r Mesur yn rhoi statws swyddogol i’r iaith, sefydlu Comisiynydd y Gymraeg, creu fframwaith y gyfundrefn safonau a rhoi rhyddid i bobl Cymru i ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Roedd y Mesur yn garreg filltir yn hanes y Gymraeg, ac mae’r safonau yn unigryw ac arloesol mewn deddfwriaeth ieithoedd lleiafrifol.

Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers pasio’r Mesur. Dyma’r adeg cywir i ystyried y gwersi a ddysgwyd hyd hyn ac os, lle bo hynny’n addas, i gyflwyno gwelliannau a newidiadau. Mewn cyfnod o gyni ariannol, rhaid i ni sicrhau bod adnoddau cyhoeddus prin yn mynd i wella gwasanaethau yn y Gymraeg a bod unrhyw feichiau biwrocrataidd posib mor ysgafn â phosib. Ble mae corff wedi methu â chyrraedd y safon, rwy’n meddwl bod e’n bwysig bod y drefn unioni yn arwain at gynnydd a gwelliant, nid at fai. A rhaid i ni ystyried a yw’r balans rhwng rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi’r Gymraeg drwy weithgareddau hybu a hyrwyddo defnydd yn gywir. Mae’n ddyledus ar Weinidogion Cymru i ddefnyddio arian cyhoeddus yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg, os ydyn ni am sicrhau yr uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  

Rwy’n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn i ymgynghori ar ddarpariaeth am Bil y Gymraeg newydd mewn da o bryd i gynnal trafodaeth gyhoeddus dros yr haf.   Heddiw, rwy’n dechrau cyfnod o ymgysylltu cynnar anffurfiol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn casglu tystiolaeth gychwynnol i’r Papur Gwyn hwnnw. Y prif faterion yr hoffwn i bobl a cyrff eu hystyried yw:

  • Beth yw eich profiad neu farn o’r gyfundrefn safonau? Hoffwn glywed yn arbennig am y prosesau o osod a gorfodi’r safonau, a’ch profiad o weithredu neu baratoi i weithredu’r safonau o fewn eich corff.
  • Mae rôl Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys swyddogaethau rheoleiddio a chyrifoldebau am hybu a hyrwyddo defnydd yr iaith. Ydi’r balans yn gywir?
  • Beth yw eich profiad neu farn am y trefniadau presennol am hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg. Hoffwn glywed yn arbennig eich barn am bwy ddylai fod yn gyfrifol am hybu’r Gymraeg, tra’n cadw mewn cof y dryswch all godi ble mae nifer o gyrff yn gweithredu yn yr un maes. 

Bydd fy swyddogion yn trefnu nifer fechan o weithdai gyda chynrychiolwyr cyrff sy’n dod o dan y drefn safonau neu sydd ar fin dod o dan y drefn safonau.

Pa bynnag welliannau a gynigir yn y Papur Gwyn a maes o law mewn Bil y Gymraeg newydd, mae deddfwriaeth yn cymryd amser i'w gwneud a gweithredu. Mae’n bwysig felly i gadarnhau y bydd y rhaglen dreigl o wneud a gosod safonau yn parhau.

Heddiw fe gymeradwyodd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau sy’n ymestyn safonau’r Gymraeg i sefydliadau addysg bellach ac uwch. Dyma gam pwysig arall i sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg o safon ar gael ym mhob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Pwrpas y safonau yw i gefnogi pobl Cymru i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy’n annog pawb i fanteisio ar y gwasanaethau y maent yn eu gwarantu. Mae e hefyd yn gam arall i gyfeiriad miliwn o siaradwyr Cymraeg.