Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Baglan Operations Limited ('BOL') a grŵp Baglan o gwmnïau wedi dechrau diddymiad gorfodol ar 24 Mawrth 2021.  Penodwyd Derbynnydd Swyddogol o Wasanaeth Ansolfedd Llywodraeth y DU yn ddiddymwr ac mae wedi bod yn cyflawni dyletswyddau statudol i sicrhau bod gweithrediadau BOL yn cael eu dirwyn i ben yn ddiogel.  Mae'r rhain wedi cynnwys darpariaeth barhaus o'r unig gyflenwad trydan i Barc Ynni Baglan drwy rwydwaith gwifren breifat sy'n gysylltiedig â gwaith ynni Baglan sydd bellach ar gau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dŵr Cymru, ac mae'n cefnogi Western Power Distribution i ddefnyddio seilwaith newydd i holl gwsmeriaid yr Orsaf Bŵer cyn gynted â phosibl drwy ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol i helpu busnesau i sicrhau eu cysylltiad newydd â'r grid.  Mae WPD yn gweithio'n gyflym ac i fod i gwblhau llawer cyn yr amserlen, a disgwylir i'r rhan fwyaf o gwsmeriaid sefydlu eu cysylltiad newydd erbyn diwedd mis Mai 2022. 

Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ar 19 Ionawr 2022, ac ar ôl dilyn pob opsiwn arall, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ynghyd â'r cwmni mwyaf ar y Parc Ynni, Sofidel, achos cyfreithiol i geisio atal y Derbynnydd Swyddogol rhag terfynu'r rhwydwaith gwifrau preifat, tra'n aros i'r ateb tymor hwy gael ei weithredu.  Mae'r dyfarniad yn y trafodion hynny bellach wedi'i drosglwyddo. Er i'r barnwr wrthod y ceisiadau, fe wnaeth gyfarwyddo y dylid cynnal y cyflenwad pŵer i'r rhwydwaith gwifrau preifat tan 18 Ebrill 2022 ar gyfer Dŵr Cymru a Chyngor Castell-nedd a Phort Talbot.  Mae'r Gorchymyn Llys, a dderbyniwyd heddiw, yn cyfarwyddo y dylid cynnal y cyflenwad pŵer i Sofidel a chwsmeriaid eraill yn y parc (ar wahân i Dŵr Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot) tan o leiaf 4 Ebrill 2022.

Byddai hyn yn amlwg rai wythnosau cyn darparu'r trefniadau rhwydwaith pŵer newydd ar gyfer pob cwsmer.

Mae fy swyddogion a minnau'n ystyried y dyfarniad, ac yn ystyried safbwynt Llywodraeth Cymru o ran apêl bosibl.

Ochr yn ochr â hynny, yr wyf wedi cyflwyno achos ar gyfer Adolygiad Barnwrol ar yr Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS gan fy mod yn parhau i gredu fod gan BEIS y pwerau i ymyrryd er mwyn sicrhau parhad y cyflenwad er budd y dinasyddion a'r busnesau yn ardal Bae Baglan.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r straen a'r ansicrwydd y mae cwsmeriaid y Parc Ynni wedi'u profi o ganlyniad i'r mater hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Dwr Cymru a'r holl bartïon perthnasol i geisio sicrhau ateb i'r risgiau sylweddol iawn i iechyd y cyhoedd a niwed amgylcheddol gan gynnwys mwy o berygl o lifogydd (yn ogystal â’r risgiau i’r economi leol) y byddai terfynu'r cyflenwad ynni gwifren breifat yn eu creu i fusnesau a dinasyddion ym Maglan cyn i'r rhwydwaith dosbarthu newydd ddechrau.