Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr aelodau yn gwybod bod Baglan Operations Limited ('BOL'), a grŵp Baglan o gwmnïau o dan grŵp Calon Energy, wedi dod yn destun proses ddiddymu orfodol ar 24 Mawrth 2021, gan adael busnesau, gorsafoedd pwmpio dŵr a sefydliadau eraill ym Mharc Ynni Baglan yng Nghastell-nedd Port Talbot mewn perygl o golli eu cyflenwad ynni.

Mae'n dda gennyf eich hysbysu, o ganlyniad i ymyriadau gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Dŵr Cymru a Western Power Distribution, fod mwyafrif cwsmeriaid y Parc Ynni bellach wedi cael eu cysylltu â rhwydwaith dosbarthu newydd, ac y bydd gweddill y cwsmeriaid yn cael eu cysylltu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £4 miliwn i gefnogi Western Power Distribution, sef y gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trwyddedig lleol, i ddylunio ac adeiladu rhwydweithiau trydan newydd ar gyfer y cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt. Mae'r buddsoddi hwn wedi galluogi Western Power i adeiladu rhwydwaith newydd yn gyflymach – fel arall byddai hyn wedi cymryd 18–24 mis i'w adeiladu.

Mae'r buddsoddi hwn wedi lleihau'r costau sylweddol y byddai wedi bod yn rhaid i’r sefydliadau yr effeithiwyd arnynt eu talu i gysylltu â'r rhwydweithiau trydanol newydd. Yn ogystal â chymorth ariannol, mae fy swyddogion wedi darparu cymorth ymarferol i fusnesau, gan gydlynu'r broses o gasglu gwybodaeth a chefnogi'r gwaith o ddylunio'r rhwydweithiau trydanol newydd.

Mae ymyriadau Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddiogelu busnesau a fyddai wedi colli eu pŵer, gan roi hyd at 1,200 o swyddi lleol mewn perygl, ac wedi atal llifogydd drwy gynnal pŵer i orsafoedd pwmpio dŵr llifogydd.

Byddaf yn gwneud sylwadau pellach i Weinidogion BEIS sydd ar ddod i godi'r angen i wersi brys gael eu dysgu o bennod na ddylid eu hailadrodd. Mae'n destun gofid mawr nad oedd Gweinidogion Cymru'n wynebu unrhyw ddewis arall ond ceisio camau cyfreithiol tra bod gan Weinidogion BEIS yr awdurdod cyfreithiol i ymyrryd er mwyn atal sefyllfa drychinebus.

Rwyf wedi cael trafodaethau helaeth gyda'r holl bartïon perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion yn BEIS ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i geisio sicrhau ateb call i'r effaith a'r problemau sylweddol iawn fyddai dod a'r cyflenwad ynni gwifren breifat wedi ei greu i fusnesau a dinasyddion ym Maglan.  Pan wrthododd Llywodraeth y DU â gweithredu, dechreuwyd achos cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru i geisio atal Derbynnydd Swyddogol Llywodraeth y DU rhag atal trydan drwy'r rhwydwaith gwifrau preifat nes bod rhwydweithiau newydd Western Power wedi cael eu hadeiladu. Dylai aelodau wybod ein bod yn y broses o dynnu'r achos hwn yn ôl gan fod y cysylltiadau angenrheidiol bellach ar waith, sy'n golygu ein bod wedi llwyddo i leihau'r tarfu ar gwsmeriaid Parc Ynni Baglan. 

Byddaf yn gwneud sylwadau pellach i Weinidogion BEIS sydd ar ddod i godi'r angen i wersi brys gael eu dysgu o bennod na ddylid eu hailadrodd. Mae'n destun gofid mawr nad oedd Gweinidogion Cymru'n wynebu unrhyw ddewis arall ond ceisio camau cyfreithiol tra bod gan Weinidogion BEIS yr awdurdod cyfreithiol i ymyrryd er mwyn atal sefyllfa drychinebus.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.