Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol imi ailgynnull Tasglu Parcio ar y Palmant Cymru y llynedd a gofyn iddynt archwilio ffyrdd eraill o gyflawni ein nodau polisi ar gyfer parcio ar y palmant. Wedi hynny, darparodd y tasglu atodiad i’w adroddiad gwreiddiol a derbyniais ei argymhelliad: Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion a wnaed yn Adroddiad Grŵp Tasglu Parcio ar y palmant Cymru

Yn dilyn y gwaith hwn, y cynnig oedd ymgynghori’n eang, gyda’r bwriad o gyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol erbyn diwedd 2023.

Fodd bynnag, rwy’n cydnabod ein bod yn gofyn i lawer o awdurdodau lleol sydd dan bwysau mawr ar yr hyn sy’n parhau i fod yn gyfnod anodd. Rwyf wedi gwrando ar yr adborth gan arweinwyr ac wedi penderfynu gohirio’r ymgynghoriad ar barcio ar balmentydd tan y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a chyflwyno terfynau cyflymder 20mya diofyn ym mis Medi 2023 a’r gwaith i baratoi ar gyfer masnachfreinio bysiau.

Mae hwn yn gyfnod hynod o brysur i lywodraeth leol. Mae cynghorau ledled Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol bwysig, y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd ac rydym yn parhau i'w cefnogi i wneud hynny. Rydym wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, a’u cefnogi, drwy’r cyfnod anodd o galedi, drwy lifogydd, drwy’r pandemig, a thrwy’r argyfwng costau byw.

Rwyf am gofnodi fy niolch i holl aelodau etholedig a staff llywodraeth leol am y gwaith hollbwysig y maent yn ei wneud i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.