Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector Settled a'r cyfreithwyr Newfields Law, sy’n arbenigo ar fewnfudo, tan 30 Medi 2022, er mwyn parhau i ddarparu cymorth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sydd am aros yng Nghymru.

Ers mis Mehefin 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu pecyn o gymorth am ddim i'r dinasyddion hynny o'r UE sy'n awyddus i aros yma. Rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod dinasyddion yr UE sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru yn parhau i deimlo eu bod yn aelodau gwerthfawr o'n cymunedau. Rydym am roi sicrwydd i bob dinesydd fod Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn genedl groesawgar.

Hyd yn hyn, mae'r cymorth wedi golygu bod dinasyddion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd wedi gallu manteisio ar gymorth digidol wrth wneud cais am statws preswylydd sefydlog, wedi cael help gydag ymholiadau sylfaenol ynghylch gofynion cymhwystra, wedi cael cyngor ar faterion yn ymwneud â lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle ac wedi cael cyngor arbenigol am ddim ynghylch mewnfudo.

Ers dechrau'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae dros 100,000 o geisiadau wedi cael eu gwneud gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yma yng Nghymru, ac mae llawer o'r unigolion hynny wedi manteisio ar ryw fath o gymorth wrth gwblhau eu cais.

Er i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ddod i ben bron blwyddyn yn ôl, gwyddom fod yr angen am gymorth yn parhau o hyd. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys helpu gyda cheisiadau hwyr, apeliadau yn erbyn ceisiadau a wrthodwyd, trosglwyddo o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog, yn ogystal â hawliau a hawlogaethau.

O ystyried hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth tan o leiaf 30 Medi 2022, a bydd yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, Settled a Newfields Law i sicrhau bod modd i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt o hyd.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau’n gallu darparu cymorth i ddinasyddion, gan gynnwys dinasyddion Wcráin a allai fod yn awyddus i ymuno ag aelodau o'u teulu sydd eisoes yn byw yma yng Nghymru.

At hyn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hwyluso cyfarfodydd Grŵp Cydgysylltu Cymru y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’r grŵp hwn yn dod â phartneriaid ac asiantaethau cyflawni allweddol at ei gilydd er mwyn cefnogi a chydgysylltu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cynghori a chymorth sy'n ymwneud â'r Cynllun Preswylio yng Nghymru. Amcanion y Grŵp hwn yw:

  • Rhannu adroddiadau ar waith y sefydliadau cymorth, gan gynnwys gwaith ar arferion gorau a materion sy'n ymwneud â'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Cynllun Preswylio yng Nghymru a'u hannog i fanteisio arno.
  • Sicrhau bod y Cynllun Preswylio ar gael i gymaint o ddinasyddion â phosibl yng Nghymru drwy ymgyrch cyhoeddusrwydd penodol.
  • Sicrhau bod gwasanaethau cynghori cyson ar gael ar gyfer y Cynllun Preswylio yng Nghymru, a'u bod yn cynnig y lefel gywir o gymorth wedi'i dargedu at y bobl gywir.
  • Nodi unrhyw fylchau yn y darpariaethau presennol a gefnogir a helpu Llywodraeth Cymru/y Swyddfa Gartref i feddwl am ffyrdd o fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.