Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, y sefydliad trydydd sector Settled a'r cyfreithwyr Newfields Law, sy’n arbenigo ar fewnfudo, er mwyn parhau i ddarparu cymorth, tan 31 Mawrth 2023, i wladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE), yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sydd am aros yng Nghymru.

Ers mis Mehefin 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu pecyn o gymorth am ddim i'r dinasyddion hynny o'r UE, yr AEE a’r Swistir sy'n awyddus i aros yma. Rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod y dinasyddion hynny sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru yn parhau i deimlo eu bod yn aelodau gwerthfawr o'n cymunedau. Rydym am roi sicrwydd iddynt fod Cymru yn genedl groesawgar.

Hyd yn hyn, mae'r cymorth wedi golygu bod dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd wedi gallu manteisio ar gymorth digidol wrth wneud cais am statws preswylydd sefydlog, wedi cael help gydag ymholiadau sylfaenol ynghylch gofynion cymhwystra, wedi cael cyngor ar faterion yn ymwneud â lles cymdeithasol a hawliau yn y gweithle ac wedi cael cyngor arbenigol am ddim ynghylch mewnfudo.

Ers dechrau'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae dros 100,000 o geisiadau wedi cael eu gwneud gan ddinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir sy'n byw yma yng Nghymru, ac mae llawer o'r unigolion hynny wedi manteisio ar ryw fath o gymorth wrth gwblhau eu cais.

Er i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ddod i ben dros flwyddyn yn ôl, gwyddom fod yr angen am gymorth yn parhau. Mae’r cymorth hwnnw’n cynnwys helpu gyda cheisiadau hwyr, apeliadau yn erbyn ceisiadau a wrthodwyd, trosglwyddo o statws preswylydd cyn-sefydlog i statws preswylydd sefydlog, yn ogystal â hawliau a hawlogaethau.

O ystyried hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth tan 31 Mawrth 2023, drwy gyllido Cyngor ar Bopeth Cymru, Settled a Newfields Law i sicrhau bod modd i ddinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir sy'n byw yng Nghymru fanteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt o hyd.

At hyn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hwyluso cyfarfodydd Grŵp Cydgysylltu Cymru y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae’r grŵp hwn yn dod â phartneriaid ac asiantaethau allweddol at ei gilydd er mwyn cefnogi a chydgysylltu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cynghori sy'n ymwneud â'r Cynllun Preswylio yng Nghymru. Amcanion y Grŵp hwn yw:

  • Rhannu adroddiadau ar waith y sefydliadau cymorth, gan gynnwys gwaith ar arferion gorau a materion sy'n ymwneud â'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Cynllun Preswylio yng Nghymru a'u hannog i fanteisio arno
  • Sicrhau bod y Cynllun Preswylio ar gael i gymaint o ddinasyddion â phosibl yng Nghymru drwy ymgyrch cyhoeddusrwydd penodol
  • Sicrhau bod gwasanaethau cynghori cyson ar gael ar gyfer y Cynllun Preswylio yng Nghymru, a'u bod yn cynnig y lefel gywir o gymorth wedi'i dargedu at y bobl gywir
  • Nodi unrhyw fylchau yn y darpariaethau presennol a gefnogir a helpu Llywodraeth Cymru/y Swyddfa Gartref i feddwl am ffyrdd o fynd i'r afael ag unrhyw broblemau

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.