Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N6 eu canfod y mis hwn mewn adar gwyllt mewn tair ardal wahanol yn Lloegr − yn Dorset, yn Swydd Warwick a Swydd Hertford.

Yn ôl asesiad risg milfeddygol ar gyfer Cymru a Lloegr, mae'r ffaith bod achosion wedi dod i'r amlwg mewn adar gwyllt mewn tair ardal wahanol yn golygu bod lefel y risg o ganfod y clefyd mewn adar gwyllt wedi codi o ganolig i uchel. Mae'r risg y  bydd yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ddofednod wedi codi hefyd, o isel i ganolig. Fodd bynnag, mae'r risg i ddofednod yn dibynnu ar lefel y mesurau bioddiogelwch ar safleoedd unigol. Mae mesurau bioddiogelwch yn hanfodol er mwyn  helpu i leihau lefel y risg.  

O gofio bod lefel y risg yn uwch, ac er mwyn lleihau'r risg y bydd dofednod ac adar caeth eraill yn cael eu heintio gan adar gwyllt rwyf am fod yn wyliadwrus ymlaen llaw a chyflwyno Parth Atal Ffliw Adar o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006.  Bydd y Parth Atal yn dod i rym o 00:01 ar 25 Ionawr 2018 ymlaen.

Bydd y Parth Atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt:
  • Bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt;
  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar; 
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Os yw'r haint wedi cyrraedd eisoes, ei leihau drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.  

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i mewn i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Er nad ydym wedi canfod unrhyw achosion o Ffliw Adar yn 2018, rwyf o'r farn bod y Parth Atal presennol hwn a'r gofyniad i gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol yn ffordd gymesur o ymateb i lefel y risg yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i ddiogelu'n diwydiant dofednod a’n masnach ryngwladol, a hefyd yr economi ehangach yng Nghymru.  

Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar.  Rhaid i geidwad barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon.

Rwy’n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw ada, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl.

Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.