Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddydd Llun 2 Tachwedd cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol (Lloegr) ddau achos o Ffliw Adar yn Lloegr nad oeddent yn gysylltiedig â’i gilydd. Un o’r achosion oedd y ffurf  bathogenig iawn, H5N8, mewn haid fasnachol ar gyfer brido ieir bwyta yn Swydd Gaer.

Yn ogystal â’r achosion hyn, mae achosion o’r Ffliw Adar Pathogenig iawn (HPAI), H5N8, wedi cael eu canfod mewn adar gwyllt yn Lloegr, yn Swydd Gaerloyw a Dyfnaint. Gyda’i gilydd, mae’r achosion hyn o’r clefyd yn ein hatgoffa ni am y risg gan ffliw adar i’n diwydiant dofednod yng Nghymru, a’r angen i ymateb mewn ffordd briodol

Mae asesiad risg wedi cael ei gynnal yng ngoleuni’r canfyddiadau diweddar hyn, ac ar 6 Tachwedd cytunodd pob un o bedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU i gynyddu lefel y risg o ganfod y clefyd mewn adar gwyllt yn y DU o ganolig i uchel. Yn ogystal, mae'r risg i ddofednod wedi cael ei chodi o isel i ganolig. Fodd bynnag, mae'r risg i ddofednod yn dibynnu ar lefel y mesurau bioddiogelwch ar safleoedd unigol. Mae mesurau bioddiogelwch yn hanfodol er mwyn helpu i leihau’r risg. 

O gofio bod lefel y risg yn uwch, ac er mwyn lleihau'r risg y bydd dofednod ac adar caeth eraill yn cael eu heintio gan adar gwyllt rwyf am fod yn wyliadwrus ymlaen llaw a chyflwyno Parth Atal Ffliw Adar o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006.  Bydd y Parth Atal yn dod i rym o 17:00 ar 11 Tachwedd 2020 ymlaen.

Bydd y Parth Atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt:
  • Bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt;
  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Os yw'r haint wedi cyrraedd eisoes, ei leihau drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog. 

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i mewn i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Er nad ydym wedi canfod unrhyw achosion o Ffliw Adar yn 2020 hyd yn hyn, rwyf o'r farn bod y Parth Atal presennol hwn a'r gofyniad i gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol yn ffordd gymesur o ymateb i lefel y risg rydym yn ei hwynebu. Mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau rhagweithiol i ddiogelu'n diwydiant dofednod a’n masnach ryngwladol, a hefyd yr economi ehangach yng Nghymru. Yn hyn o beth bydd y Parth Atal yn cael ei ategu drwy atal pob digwyddiad lle mae adar yn dod i gysylltiad â’i gilydd ledled Cymru.

Mae pob un ohonom yn gyfrifol am atal clefydau a diogelu iechyd ein haid genedlaethol yng Nghymru. Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar.  Rhaid i geidwad barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon.

Nid yw mesurau i gadw adar mewn siediau’n cael eu gwneud yn orfodol o dan ofynion y Parth Atal hwn. Mesurau bioddiogelwch da a chadarn yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag pob clefyd anifail, ac ar gyfer llawer o geidwaid adar ni fydd y Parth Atal hwn yn newid y camau llym sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd i ddiogelu ein hadar. Fodd bynnag, mae hyn yn gyfle da i bawb adolygu arferion bioddiogelwch a gofyn a allwn ni wneud mwy. Y gofyniad lleiaf yw’r amodau hyn a gofynnir i bawb gydymffurfio â nhw. Mae’n bosibl y bydd ceidwaid adar yn teimlo bod angen cadw eu heidiau mewn siediau ar yr adeg hon i’w diogelu, ac nid ydym ni yn y Llywodraeth wedi diystyru gwneud cadw adar mewn siediau’n orfodol, fel mesur ychwanegol y gellir ei gyflwyno wrth inni barhau i adolygu’r clefyd a’i ddeall yn well wrth i’r sefyllfa ddatblygu. Hoffwn annog pobl un ohonoch i ystyried cadw eich adar mewn siediau, a sut byddech yn cyflwyno mesurau o’r fath, os yw gofynion y Parth Atal yn gwneud hynny’n ofynnol.

Rwy’n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw ada, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl.

Hoffwn atgoffa pawb nad yw Ffliw Adar yn gysylltiedig â COVID-19. Fodd bynnag, yng ngoleuni’r pandemig iechyd cyhoeddus presennol a’r anawsterau rydym wedi eu hwynebu, mae’n hanfodol inni fod yn rhagweithiol wrth reoli ffliw adar a chymryd y camau cynnar hyn.

Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.