Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, dechreuodd Llywodraeth Cymru ar broses cam wrth gam ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch Parthau Cadwraeth Morol gan egluro’r wyddoniaeth sy’n sail i 10 opsiwn ar gyfer safleoedd posibl. Cawsom bron 7000 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a oedd yn llawn gwybodaeth am yr agweddau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar gymunedau arfordirol lleol ledled Cymru, y goblygiadau posibl ar eu cyfer a safbwyntiau cryf ac amrywiol ynglŷn â’r ffordd orau i ddatblygu Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru.

Rwyf felly’n cyhoeddi cyfnod o waith ychwanegol i ystyried yr holl wybodaeth a dderbyniwyd a’i harchwilio’n llawn, er mwyn llywio’r ffordd y byddwn yn datblygu Pharthau Cadwraeth Morol yng Nghymru. Mae’r gwaith ychwanegol hwn yn cyd-fynd â’n dull cam wrth gam arfaethedig i wrando ar adborth ar bob cam, ymateb iddo ac yna i wahodd safbwyntiau pellach gan yr holl bartïon sydd â diddordeb cyn penderfynu ar y camau nesaf. Mae’n ategu ein hymrwymiad i weithio ar draws meysydd polisi mewn ffordd gydgysylltiedig.

Er mwyn bwrw ati â’r gwaith hwn, caiff tîm gorchwyl a gorffen ei sefydlu o fewn Llywodraeth Cymru. Rôl y tîm trawsbynciol hwn fydd cynghori a gwneud argymhellion ar y ffordd rydym yn datblygu Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru er mwyn cyfrannu at rwydwaith ehangach o ardaloedd morol gwarchodedig. Mae’r pethau allweddol y bydd yn rhaid i’r tîm eu hystyried yn cynnwys yr ymatebion i’r ymgynghoriad, prosiectau Parthau Cadwraeth Morol yng ngweinyddiaethau eraill y DU ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy, cymunedau a swyddi, yn ogystal â bioamrywiaeth. Bydd y tîm yn adlewyrchu’r dull seiliedig ar ecosystemau sy’n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd y Tîm Gorchwyl a Gorffen yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid a ddaw ynghyd fel Grŵp Ffocws Rhanddeiliaid newydd a fydd yn cyfrannu at waith y Tîm ac yn ei herio, yn profi syniadau ac yn cynghori ar atebion ymarferol. Bydd Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, yn Cadeirio’r grŵp rhandeiliaid newydd.

Byddaf yn disgwyl i’r Tîm adrodd wrthyf erbyn diwedd mis Ebrill 2013. Yna ceir ymgynghori pellach, yn enwedig gyda chymunedau lleol, ar ganlyniad y gwaith hwn i lywio’r ffordd y byddwn yn symud ymlaen yng Nghymru.

NODIADAU

Bydd y Tîm Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys aelodau o’r sefydliadau canlynol:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru
  • Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
  • Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu 
  • Uned Bysgodfeydd Llywodraeth Cymru
  • Cangen Forol Llywodraeth Cymru

Byddwn yn gwahodd cynrychiolwyr o’r meysydd canlynol (ond heb eu cyfyngu iddynt) i gyfrannu at waith y Grŵp Ffocws Rhanddeiliaid:

  • •Y sectorau busnes a diwydiant;
  • Sefydliadau arfordirol/cymunedol;
  • Sefydliadau amgylcheddol;
  • Sefydliadau pysgota;
  • Llywodraeth Leol – ar lefel sirol, lefel drefol a lefel gymunedol;
  • Y sectorau hamdden;
  • Y sector twristiaeth.