Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cadarnhau nad yw Parvovirus y Cŵn yn glefyd hysbysadwy nac adroddadwy ac nad yw’n filhaint h.y.nid oes mae modd ei drosglwyddo i bobl.  Ni does gennyf felly dystiolaeth systematig bod y clefyd yn cynyddu neu’n lleihau, ond rwy’n cydnabod pryderon elusennau anifeiliaid sy’n dod i wybod am gŵn sy’n dioddef o’r clefyd.

Dylai ceidwaid anifeiliaid drafod gyda’u milfeddygon beth yw’r mesurau mwyaf priodol i fynd i’r afael â’r clefyd.  Gellir atal y clefyd trwy frechu.  Mae effeithiau’r Parvovirus lawer fwy difrifol ar gŵn bach nag ag ar gŵn llawndwf.  Er hynny, dylai unrhyw gi sy’n dioddef o’r clefyd gael gweld milfeddyg ar unwaith.  Gall y gyfradd farwolaeth ymhlith cenawon fod yn uchel.  

Bydd gwaith Llywodraeth Cymru ar fridio cŵn a rhoi microsglodion ar gŵn yn helpu i ddatrys problemau iechyd mewn sefydliadau bridio trwyddedig.  Disgwylir y bydd perchnogion safleoedd bridio cŵn wedi cofrestru â milfeddyg a bod ganddynt gynllun iechyd ar gyfer pob ci, gan gynnwys cŵn bach h.y. cŵn lai na 6 mis oed.  Dylai perchnogion cŵn unigol ddeall eu bod yn hollbwysig gwybod beth yw cyflwr iechyd unrhyw gi bach newydd neu gi sy’n cael ei ailgartrefu, a’r brechiadau y mae wedi’u cael.

Annog perchnogion cŵn i fod yn berchnogion cyfrifol yw prif nod ein gwaith ar Les Cŵn ac iechyd da yw un o’r pum angen a nodir yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.