Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n falch o gael lansio Pecyn cymorth ar gyfer gweithredu cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned wedi’i ddiweddaru. Gellir cael mynediad ato yma:

https://llyw.cymru/pecyn-cymorth-gweithredu-cwnsela-mewn-ysgolion-ac-yn-y-gymuned


Yn ddi-os mae’r pandemig Covid-19 presennol yn golygu y bydd llawer o blant a phobl ifanc nad oedd angen cymorth iechyd meddwl arnynt o'r blaen yn fwy tebygol o fod ei angen nawr ac yn y dyfodol. Wrth i bawb ddod i delerau ag effaith y pandemig a'r cyfyngiadau ar fywydau, mae mwy o bobl ifanc yn debygol o brofi teimladau o golled oherwydd y cyfyngiadau cymdeithasol sydd yn eu lle. Bydd llawer yn pryderu am ddychwelyd i'r ysgol, symud ymlaen i'r cam nesaf ar eu taith ddysgu ac effaith y cyfnod hwn ar eu cyfleoedd yn y dyfodol. Byddant yn pryderu am eu hiechyd eu hunain ac am iechyd eu teulu; ac, yn anffodus i rai, bydd effaith profedigaeth yn amlwg hefyd.

Felly, mae'n bwysicach nag erioed bod ein dysgwyr yn cael mynediad cynnar a hawdd at gwnsela o ansawdd da, sy’n gweithio, a hynny er mwyn helpu i atal problemau iechyd emosiynol neu eu hatal rhag datblygu’n fwy difrifol. Dyna pam y cyhoeddais ym mis Ebrill fod £1.252 miliwn ychwanegol ar gael i ymestyn y ddarpariaeth gwnsela.
 

Er bod y gwaith paratoi ar gyfer y pecyn cymorth cwnsela wedi’i ddiweddaru wedi cael ei gynnal cyn y pandemig, cafodd ei adolygu yn sgil Covid-19 a'i ddiweddaru i adlewyrchu ei effaith. Mae'r pecyn cymorth hefyd yn adlewyrchu nifer o newidiadau sydd wedi digwydd ers i'r canllawiau gwreiddiol gael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2011, fel newidiadau yn y gyfraith a pholisi a chynyddu’r ddarpariaeth gwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc mewn lleoliad cymunedol, ac mae'n cynnwys safonau a chanllawiau diwygiedig ar gyfer cwnselwyr a gwasanaethau cwnsela. Bydd hyn yn helpu darparwyr cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach, i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sy’n ddiogel, yn hawdd eu cyrraedd ac sydd ar gael pan fydd eu hangen.

Mae'r pecyn cymorth diwygiedig hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y defnydd o gwnsela ar-lein, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o ddarparwyr yn ystod y pandemig presennol gan fod cwnsela wyneb yn wyneb wedi bod bron yn amhosibl. Yn ogystal, mae’r pecyn wedi’i ategu gan ddogfen cwestiynau cyffredin sy'n cynnwys syniadau ac awgrymiadau defnyddiol ar ddarparu hyfforddiant cwnsela ar-lein. Mae’r ddogfen hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y ffyrdd gorau o sicrhau bod gwasanaethau cwnsela o bell yn parhau mor ymatebol ac addasol ag y bo modd yn ystod y pandemig Covid-19 presennol, a rhestr o ragofalon y dylai cwnselwyr lynu wrthynt wrth symud yn ôl i gwnsela wyneb yn wyneb.

Datblygwyd y pecyn cymorth a'r cwestiynau cyffredin ym maes cwnsela gyda chymorth arweinwyr cwnsela'r Awdurdodau Lleol, darparwyr gwasanaethau a chydweithwyr eraill, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu cyfraniad.