Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd Aelodau'r Senedd yn awyddus i wybod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu Hadroddiad i Senedd y DU ar Gyfraith a Gymathwyd: Rhagfyr 2024 i Mehefin 2025 ('Adroddiad Llywodraeth y DU') a gwnaeth ddatganiadd ysgrifenedig ar 17 Gorffennaf 2025. Cyflwynwyd adroddiad Llywodraeth y DU gerbron Senedd y DU yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ("Deddf REUL").
I ategu'r adroddiad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ein Pedwerydd Diweddariad Chwemisol ar Ddeddf REUL (Mehefin 2024 i Ragfyr 2024) sy'n adrodd ar ymwneud Gweinidogion Cymru â Deddf REUL yn ystod yr un cyfnod adrodd.
Yn ystod y cyfnod adrodd, nid yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw reoliadau o dan y pwerau a roddwyd iddynt gan Ddeddf REUL.
Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi gosod deuddeg OS rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Mehefin 2025 gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf REUL.
Rhoddodd Gweinidogion Cymru eu cydsyniad i ddefnyddio'r pwerau cydredol yn Neddf REUL ar gyfer tri Offeryn Statudol: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Dirymu) 2025; Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025; a Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion Rheoleiddiedig) (Diwygio, Dirymu, Darpariaeth Ganlyniadol a Throsiannol) 2025.
Roedd y naw offeryn statudol arall mewn meysydd a ddargedwir yn llwyr ac ni cheisiodd Llywodraeth y DU gydsyniad gan Weinidogion Cymru.
