Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy nghyhoeddiad at 29 Hydref 2018, rwyf wedi recriwtio aelod newydd arall i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dechreuodd Geraint Davies yn ei swydd ar 1 Ionawr 2019. Mae Geraint yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf a bydd, felly, yn cryfhau sgiliau Cymraeg y Bwrdd. Mae penodiad Geraint yn golygu bod gan y Bwrdd bellach 13 o aelodau, gan gynnwys y Prif Weithredwr.

Credaf fod gan Cyfoeth Naturiol Cymru rôl hollbwysig ac mae’n bleser cael cyhoeddi penodiad Geraint i’r Bwrdd.