Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn ymddiswyddiad aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, Kathleen Palmer, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi penodi Karen Balmer yn uniongyrchol yn aelod dros dro o'r Bwrdd ar gyfer y cyfnod interim 1 Gorffennaf 2025 i 31 Mawrth 2026, cyn ymgymryd ag ymarfer Penodiad Cyhoeddus llawn. 

Mae paragraff 3.3 o Cod Llywodraethu'r Penodiad Cyhoeddus https://publicappointmentscommissioner.independent.gov.uk/regulating-appointments/appointments-made-without-competition/ yn caniatáu, mewn amgylchiadau eithriadol, i Weinidogion benodi ymgeisydd heb gystadleuaeth, ar yr amod yr ymgynghorir â'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Gallaf gadarnhau bod y Comisiynydd wedi cytuno i benodi Karen dros dro.   

Bydd y rôl ar dâl o £350 y dydd am uchafswm o 48 diwrnod y flwyddyn (pro rata ar gyfer tymor y penodiad).  

Gwasanaethodd Karen fel aelod blaenorol o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru rhwng Tachwedd 2015 a Mawrth 2023. Mae Karen yn gyfrifydd cymwysedig CIPFA gyda dros 35 mlynedd o brofiad ariannol, ynghyd â phrofiad helaeth o adnoddau dynol a llywodraethu. 

Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol am sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae'r Bwrdd hefyd yn atebol i Weinidogion Cymru am y ffordd y mae'n gweithredu yn unol â'i lythyr cylch gwaith Gweinidogol.

Diolchaf i Kathleen am gyfraniadau sylweddol yn ystod ei chyfnod fel aelod o'r Bwrdd ac am ei hymrwymiad i waith Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig yn ei rôl fel Cadeirydd is-bwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd y Bwrdd.