Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy nghyhoeddiad ar 9 Mehefin ynglŷn â phenodiad Sharon Lovell MBE yn Gadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, mae’n bleser gennyf gadarnhau, ar ôl proses penodiadau cyhoeddus lai ffurfiol na’r arfer a arweiniwyd gan Sharon, bod yr ymgeiswyr sydd wedi sicrhau rôl ar y Bwrdd yn llwyddiannus fel a ganlyn:

Dr Simon Stewart Deon y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Joanne Sims Rheolwr Gwasanaethau – Pobl Ifanc a Phartneriaethau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Lowri Jones Prif Swyddog, Menter Iaith Sir Caerffili

Siân Elen Tomos Prif Swyddog Gweithredol, GISDA

Shahinoor Alom Shumon Swyddog Cyswllt Cyfathrebu a Chymunedau, John Griffiths AS

David Williams Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Kelly Harris Arweinydd Datblygu Busnes a Chyfranogi, Brook Young People

Marco Gil-Cervantes Prif Weithredwr, ProMo-Cymru

Deb Austin Arweinydd Cenedlaethol, Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

Bydd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn allweddol i weithredu argymhellion adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru: Sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Ar y cyd, mae’r aelodau bwrdd hyn yn dod ag ystod o sgiliau a gwybodaeth a fydd yn amhrisiadwy wrth inni ddatblygu cynigion ar gyfer newid. Mae pob aelod hefyd yn dod â chyfoeth o brofiadau bywyd fel y gallwn fod yn hyderus ein bod yn datblygu gwasanaeth gwaith ieuenctid amrywiol sy’n hygyrch ac yn gynhwysol ar gyfer ein holl bobl ifanc.

Daeth nifer helaeth o geisiadau i law a hoffwn ddiolch i bawb am roi o’u hamser i ymgeisio. Roedd ansawdd y ceisiadau yn dystiolaeth o safon uchel y gweithlu a’r ymroddiad a’r brwdfrydedd y mae’r sector a’r gymuned ehangach yn eu rhannu i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc.

Bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc drwy gydol ei ddeiliadaeth er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn ganolog i’w waith, gan gyd-fynd â’m hymrwymiad i sicrhau osod hawliau plant mewn lle canolog yn ein holl ddiwygiadau. Bydd cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Pobl Ifanc yn ymuno â chyfarfodydd Bwrdd i gynrychioli barn y pwyllgor ehangach yn uniongyrchol, a bydd ymgysylltiad ychwanegol wedi'i dargedu gyda charfannau ehangach o bobl ifanc.  

Un o flaenoriaethau cyntaf y Bwrdd fydd datblygu cynllun gwaith a fydd yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn adeiladu ar y camau sydd eisoes ar waith, gan gynnwys adolygiad buan o gyllid a fydd yn archwilio effeithiolrwydd trefniadau cyllido presennol. Bydd hefyd yn ystyried y sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid a’r cyllid ychwanegol sydd wedi’i ddyrannu i’r sector yn ddiweddar er mwyn cefnogi ein hymdrechion i greu rhagor o ddarpariaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â chynnig gwaith ieuenctid sy’n ehangach ac yn fwy amrywiol. Bydd y Bwrdd hefyd yn trafod sut i ennyn diddordeb y sector gwaith ieuenctid ehangach yn ei waith, gan gynnwys rôl y Grwpiau Partneriaeth Strategaeth i’r dyfodol a oedd yn hanfodol o ran cefnogi gwaith y Bwrdd Dros Dro.

Gwaith ieuenctid yw un o’n dulliau mwyaf pwerus ar gyfer cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial a sicrhau eu bod yn byw bywydau sy’n rhoi boddhad iddynt. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd wrth inni gymryd y cam nesaf hwn i wireddu ein nod o gyflawni gwasanaeth gwaith ieuenctid cynaliadwy sy’n cyfoethogi bywydau holl bobl ifanc Cymru.