Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i Aelodau am y rheini yr wyf wedi'u penodi'n ddiweddar i Fwrdd Chwaraeon Cymru, yn dilyn proses recriwtio agored. 

Rwyf wedi penodi pum aelod i'r Bwrdd. Aelodau newydd y Bwrdd yw Sanjiv Vedi OBE, Dr Alison Parken OBE, Róisín Connolly, Owain Schiavone a Martin Hurst. Gyda'i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o sgiliau a phrofiad i'r Bwrdd.

Cychwynnodd yr aelodau newydd eu swyddi, a fydd yn para tair blynedd, ar 1 Hydref 2025.

Rwy'n hyderus bod gan y Bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni uchelgeisiau'r Rhaglen Lywodraethu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw.

Wrth groesawu'r aelodau newydd hyn, rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r aelodau sy'n gadael sef Judi Rhys MBE, Martin Veale a Phil Tilley am eu gwasanaeth.