Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i'r Aelodau am benodiadau diweddar yr wyf wedi'u gwneud i Fwrdd Chwaraeon Cymru. 

Yn dilyn proses recriwtio agored a gynhaliwyd yr haf diwethaf ar gyfer pum penodiad i'r Bwrdd, ystyriwyd bod wyth ymgeisydd arall yn benodadwy ac fe’u rhoddwyd ar restr wrth gefn pe bai unrhyw gyfleoedd yn codi yn y dyfodol.

Am fod tri aelod o'r Bwrdd yn dod at ddiwedd eu hail dymor a'u tymor olaf yn ddiweddarach eleni, rwyf wedi penderfynu penodi tri aelod newydd o'r rhestr wrth gefn. Aelodau'r Bwrdd newydd yw Parul Patel, Phil Newman, a Dr Anna Bryant. At ei gilydd bydd eu profiad yn sicrhau bod y Bwrdd yn cadw'r sgiliau sydd eu hangen i weithredu'n effeithiol. 

Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu tymor yn y swydd ar 1 Hydref 2026 am gyfnod o dair blynedd.