Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi llynedd, lansiais ymgyrch penodiadau cyhoeddus i recriwtio bwrdd newydd ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod i rym ar 3 Ebrill 2017 ac yn disodli'r Cyngor Gofal Cymru presennol. Mae'r newid hwn yn digwydd fel rhan o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ysgwyddo cyfrifoldebau newydd dros sicrhau gwelliannau strategol ar draws ein sector gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn cadw'r cyfrifoldebau presennol dros reoleiddio a datblygu'r gweithlu, ac fe fydd y rhain yn cyfuno i wneud corff deinamig a phwerus.

Yn dilyn proses ddethol gystadleuol, lle gwelwyd mwy o ddiddordeb nag erioed, rwy'n falch iawn o gyhoeddi enwau aelodau bwrdd newydd Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd y bwrdd dan gadeiryddiaeth Arwel Ellis Owen, sef Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru ar hyn o bryd.

Hoffwn ddiolch i'r holl ymgeiswyr a fynegodd ddiddordeb ac a fu'n cymryd rhan yn y broses. Roedd yn bleser gweld cymaint o amrywiaeth o ddiddordeb o bob cwr o Gymru. Rwy'n gwahodd yr ymgeiswyr nad oeddent yn llwyddiannus i gadw mewn cysylltiad â Gofal Cymdeithasol Cymru - mae nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan a dylanwadu ar yr agenda gofal cymdeithasol wrth iddo barhau i ddatblygu.

Gellir gweld manylion y bwrdd newydd isod:

Cadeirydd

  • Arwel Ellis Owen

    Mae Arwel Ellis Owen yn byw yng Nghreigiau, Caerdydd. Ganwyd ef yn Llansannan, Clwyd, a chafodd ei addysgu yn ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth, ble graddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Coleg Nuffield Rhydychen iddo, ac mae Arwel hefyd yn Gymrawd Churchill ac yn Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

    Yn dilyn coleg ymunodd â’r BBC lle aeth yn Olygydd Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru, cyn gweithio ar Newsnight and Panorama. Cafodd ei apwyntio yn Bennaeth Rhaglenni i BBC Gogledd Iwerddon a buodd yno am bum mlynedd cyn sefydlu cwmni cyfryngau annibynnol ei hun, Cambrensis.

    Yn gyn-gadeirydd Derwen, cwmni ôl-gynhyrchu blaengar, bu Arwel hefyd yn Gadeirydd Bafta Cymru ac Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru. Trwy ei waith cyfryngau gyda Cambrensis a Sefydliad Thomson mae Arwel yn hyfforddi newyddiadurwyr, pobl busnes a chynrychiolwyr etholedig. Mae ei gwsmeriaid yn cynnwys cwmnïau blaengar yn y DU, yn ogystal â chwsmeriaid yn y Dwyrain Canol, India, Rwsia, a De’r Affrig.

    Mae Arwel yn gadeirydd yr elusen yr Ystafell Fyw Caerdydd a hefyd yn gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Celtaidd Prifysgol Cymru.

Cydnabyddiaeth ariannol: £300 y dydd
Nifer o ddiwrnodau y mis: 8
Tymor y penodiad: 3 Ebrill 2017 – 31 Gorffennaf 2019

Aelodau

  • Abigail Harris

    Mae Abigail wedi gweithio mewn swyddi arweinyddiaeth uwch yn y GIG, mewn llywodraeth leol ac yn Llywodraeth Cymru am fwy nag 20 mlynedd. Mae hynny’n cynnwys pedair blynedd yn gyfarwyddwr statudol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chwe blynedd yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg. Roedd nifer o’r swyddi y bu’n ei gwneud yn golygu cyflymu’r broses o integreiddio gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae ganddi radd meistr mewn Gofal Integredig.

  • Aled Roberts

    Cafodd Aled ei fagu yn hen bentref glofaol Rhosllannerchrugog ger Wrecsam. Bu’n Gadeirydd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ac yn cynrychioli Cymru ar Weithgor Lloches a Ffoaduriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol y DU. Aled oedd Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Dai o 2005 i 2011, ac yn 2008 cafodd gyfrifoldeb ychwanegol pan ehangwyd ei bortffolio i gynnwys yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Gwastraff. Mae’n gyn Gadeirydd Craff am Wastraff Cymru a bu’n aelod hefyd o Gomisiwn Cymru ar Newid Hinsawdd.

  • Carl Cooper

    Mae Carl wedi bod yn gweithio yn y Sector Gwirfoddol drwy gydol ei yrfa waith. Bu’n gweithio i’r Eglwys yng Nghymru am 25 mlynedd, ac mae wedi ymgymryd â swyddi rheoli ac arweinyddiaeth uwch ers 1999. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Dechreuodd ar ei swydd fel Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ym mis Gorffennaf 2008. Mae’n aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ac yn Is-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

  • Damian Bridgeman

    Roedd Damian yn aelod o fwrdd Cyngor Gofal Cymru ac mae ganddo brofiad o waith cyfathrebu ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar wasanaethau cadair olwyn ac adsefydlu yng Nghymru ac yn Nottingham. Mae wedi gweithio gyda phob un o’r pedwar prif goleg brenhinol. Mae wedi darlithio ar faterion yn ymwneud ag anabledd a gofal ar y llwyfan rhyngwladol, ac wedi cwblhau astudiaethau pellach mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i ehangu ei wybodaeth a’i brofiad ym maes gofal, addysg a’r gymuned. Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau gweithgareddau awyr agored fel marchogaeth ac abseilio. Bu Damian yn nofio ar lefel sir i Glwb Anabledd Cymru Caerdydd. Mae’n mwynhau mynd i’r theatr ac i orielau, teithiau cerdded yng nghefn gwlad a gwledda gyda ffrindiau.

  • Donna Hutton

    Mae Donna wedi bod yn gyfrifol am y sector gofal cymdeithasol yn UNISON ers wyth mlynedd ac mae’n gweithio gyda’r sector iechyd ar hyn o bryd. Yn y Gogledd y mae’n byw ond mae ei swydd wedi’i lleoli yn Abertawe. Mae hi wedi bod yn ynad heddwch ac yn arweinydd y Brownies.

  • Emma Britton

    Mae Emma Britton yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig sy’n gweithio ym maes maethu a mabwysiadu. Mae hi hefyd yn cynorthwyo oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth pan oeddent yn blant ac yn tiwtora pobl ifanc ar ran asiantaeth yn y sector gwirfoddol. Yn ogystal â’i phrofiad proffesiynol, mae gan Emma brofiad personol o fod yn ddefnyddiwr gwasanaethau gofal cymdeithasol.

  • Grace Quantock

    Mae Grace Quantock yn byw ym Mhont-y-pŵl, Torfaen, gyda’i gwr a chŵn bach y maen nhw wedi’u hachub. Cafodd ei geni yng Ngwent a derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Reading, lle’r astudiodd Hanes gan arbenigo mewn astudiaethau rhywedd. Mae Grace yn entrepreneur cymdeithasol, yn awdur ac yn siaradwraig sydd wedi ennill gwobrau. Hi yw sylfaenydd Healing Boxes CIC a Trailblazing Wellness (Un) Ltd ac mae wedi ennill Gwobr Arweinydd Ifanc y Dyfodol yng Nghymru. Mae hi wrthi’n astudio ar gyfer diploma mewn cwnsela seicotherapiwtig yng Nghanolfan Seicotherapi a Chwnsela Caerfaddon. Mae Grace yn gwnselydd gwirfoddol gyda MIND Torfaen a Gofal mewn Galar Cruse. Mae hi hefyd wedi bod yn hyfforddwr gwirfoddol ar fyfyrdod a symudiadau ymwybyddiaeth hygyrch yn Able Radio, Cwmbrân. Mae’n mwynhau marchogaeth, peintio a chwarae’r delyn.

  • Joanne Kember

    Fferyllydd yw Joanne ac mae’n byw yng Ngogledd Cymru ers 20 mlynedd. Fel fferyllydd cymunedol, mae hi wedi bod yn flaenllaw yn hybu iechyd a llesiant pobl yr ardal. Mae hi wedi bod yn weithgar gyda’r sector trydyddol, yn enwedig mudiadau gofalwyr, ac mae’n eiriolwr dan y cynllun Ffrindiau Dementia.

  • Jane Moore

    Mae gan Jane 40 mlynedd o weithio yn Adrannau Gwasanaethau Plant llywodraeth leol. Mae hi wedi rheoli’r rhan fwyaf o agweddau ar Wasanaethau Plant, a hynny ar lefel uwch-reolwr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi arbenigo mewn darpariaeth gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Ers mis Ebrill 2013, mae Jane wedi bod yn gweithio’n annibynnol. Cafodd ei chomisiynu i weithio ar brosiectau mawr, er enghraifft fel Rheolwr Prosiect i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac fel Rheolwr Prosiect i’r Fframwaith Mabwysiadu Cenedlaethol.

  • Kate Hawkins

    Roedd Kate yn aelod o fwrdd Cyngor Gofal Cymru. Mae’n byw ar arfordir gorllewin Cymru ac yn cyfuno’i swydd fel Uwch-ddarlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Sir Benfro gyda chyfrifoldebau gofalu. Uchelgais Kate yw defnyddio’i phrofiadau yn y meysydd hyn i gyfoethogi a gwella gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’n credu’n gryf yn y syniad o lywodraethu dan arweiniad y dinesydd ac mae’n awyddus i helpu i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru.

  • Peter Max

    Yn wreiddiol roedd Peter yn gweithio fel cyfrifydd siartredig, yn canolbwyntio ar wasanaethau cyhoeddus ac elusennau. Erbyn hyn, mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr ac yn Unigolyn Cyfrifol mewn sefydliad yng Nghymru sy’n cynnig gofal yn y gymuned i bobl sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl. Mae profiad anweithredol Peter yn cynnwys swyddogaethau yn y trydydd sector ac o fewn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae Peter yn aelod o fwrdd Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd ers chwe blynedd, yn Aelod Annibynnol o Grŵp Cyflawni Cenedlaethol y GIG ers 8 mlynedd ac yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ers 2013.

  • Rhian Watcyn Jones

    Mae Rhian yn siaradwr Cymraeg sydd wedi byw yn y Gogledd a’r De, gan weithio’n bennaf ym maes addysg ac yn y gwasanaeth sifil. Yn sgil cyfrifoldebau gofalu, daeth i ddeall mwy am ofal cymdeithasol a’r gweithlu ac am yr heriau gwirioneddol sy’n wynebu’r sector. Mae’n aelod o Gyngor Gofal Cymru ers tair blynedd.

  • Simon Burch

    Mae Simon Burch wedi cael gyrfa hir yn y sector cyhoeddus, a hynny’n fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Fynwy lle’r oedd ganddo gyfrifoldeb statudol am yr holl wasanaethau i oedolion a phlant. Yn ogystal â gwneud swyddi rheng flaen fel athro a gweithiwr cymdeithasol, mae wedi treulio sawl blwyddyn yn gweithio ar ddatblygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd integredig sy’n rhoi lle canolog i’r unigolyn. Mae’n aelod o’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ac yn credu bod amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ganolog i’r gwaith gwella a rheoleiddio a wneir gan Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cydnabyddiaeth ariannol: £250 y dydd
Nifer o ddiwrnodau y mis: 2
Tymor y penodiad: 3 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2021

Mae Donna Hutton, Peter Max ac Aled Roberts wedi datgan eu gweithgarwch gwleidyddol. Mae Donna Hutton yn aelod gweithredol o'r Blaid Lafur, Peter Max yn aelod o'r Blaid Lafur ac Aled Roberts wedi gwasanaethu yn y gorffennol fel Aelod Rhanbarth Gogledd Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y penodiadau hyn yn cychwyn ar 3 Ebrill 2017 ac yn rhedeg am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd (ac eithrio'r Cadeirydd a fydd yn camu i lawr ar ôl cyfnod o 2 flynedd). Cafodd y penodiadau hyn eu gwneud yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd dros Benodiadau Cyhoeddus.