Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 20 Medi fe wnes i ddatganiad llafar ar y camau gweithredu ar gyfer mynd i'r afael â chanfyddiadau'r ymchwiliad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Estyn. Cyhoeddwyd yr adroddiad archwilio, "Ymchwiliad ar y cyd i’r ffordd y rheolir ac yr ymdrinnir â honiadau o gam-drin proffesiynol a’r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant mewn gwasanaethau addysg yng Nghyngor Sir Penfro" ar 11 Medi 2011, a chyhoeddwyd adroddiad arolygu Estyn ar wasanaethau addysg Sir Benfro ar yr un diwrnod.
Yr oedd y ddau adroddiad yn tynnu sylw at fethiannau difrifol a systemig yn null gweithredu Cyngor Sir Penfro mewn perthynas â diogelu. Mae'n gwbl glir fod y methiannau hyn yn rhai hirdymor a bod y gwendidau o ran arweiniad, atebolrwydd a phrosesau democrataidd o fewn yr awdurdod wedi cyfrannu at y methiannau hyn. Cadarnhawyd hyn gan y Bwrdd Cynghori Gweinidogol a benodwyd gan Weinidogion Cymru i roi cefnogaeth a her gadarn i’r awdurdod wrth iddo fynd ati i ddrafftio’i gynllun gwella.
Yn fy natganiad llafar dywedais y byddai'n rhaid parhau i roi cefnogaeth a her allanol i’r cyngor i’w gynorthwyo i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd. Dywedais hefyd mai'r ffordd orau o wneud hynny fyddai drwy gael Bwrdd Gweinidogol â chadeirydd annibynnol.
Gallaf gyhoeddi heddiw aelodau'r Bwrdd hwn.
Bydd yr aelodau’n cynnwys unigolion sydd â phrofiad ac arbenigedd ar lefel uwch yn y meysydd craidd hynny lle nodwyd gwendidau yn y ddau adroddiad. Rwy'n falch o fedru cyhoeddi mai Cadeirydd annibynnol y Bwrdd fydd Ei Anrhydedd, Graham Jones. Mae gan Graham Jones, sydd bellach wedi ymddeol o'r farnwriaeth, brofiad helaeth gan ei fod wedi cadeirio bwrdd tebyg a sefydlwyd i gefnogi Cyngor Dinas a Sir Abertawe wrth iddo fynd i'r afael â gwendidau yn ei Wasanaethau Cymdeithasol.
Mae Phil Robson, cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a chyn Gyfarwyddwr Addysg ym Mhowys, sydd wedi ymddeol erbyn hyn, a chyn aelod o Fwrdd Cynghori Gweinidogol Sir Benfro, wedi cytuno i sicrhau parhad drwy ymuno â'r Bwrdd newydd. Rydym hefyd yn croesawu'r aelodau eraill, sef:
- Helen Mary Jones, cyn Aelod Cynulliad Llanelli. Bu’n Weinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes dros yr Wrthblaid, a hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal.
- Viv Thomas, cyn Gyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a chadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Strwythurau Addysg ar gyfer yr Adolygiad o Wasanaethau Rheng Flaen
- Yr Athro Karen Graham, Athro Astudiaethau'r Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Glyndŵr, sydd wedi cael gyrfa helaeth ac amrywiol iawn ym maes addysgu ac addysg y blynyddoedd cynnar.
Bydd y Bwrdd yn rhoi cefnogaeth a her i Gyngor Sir Penfro wrth iddo fynd ati i ddatblygu ei gynllun gwella ymhellach a’i roi ar waith. Bydd y Bwrdd hefyd yn asesu pa mor gynaliadwy yw’r newidiadau a beth yw’r disgwyliadau hirdymor ar gyfer gwella. Byddant yn rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am hynt y gwaith ac am yr angen i gymryd unrhyw gamau pellach.
Caiff cyfeiriad gwaith y Bwrdd ac unrhyw benderfyniadau pellach gan Weinidogion eu pennu yn sgil canlyniadau unrhyw waith arall sydd ar y gweill, ac yn enwedig y gwaith sy’n cael ei wneud ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi. Mae’r arolygiaethau yn edrych ar ansawdd y gwaith sy’n cael ei wneud ar y cyd er mwyn diogelu ac amddiffyn plant a phobl ifanc. Byddwn hefyd yn ystyried safbwyntiau Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cynnal arolygiad arbennig o’r awdurdod. Disgwylir ei hadroddiad ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Mae’r Arweinydd wedi cadarnhau y bydd y Cyngor yn croesawu’r cymorth yr ydym wedi ei gynnig drwy benodi’r Bwrdd.