Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn hysbysu Aelodau o ganlyniad y broses ddiweddar i benodi aelodau newydd i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Sefydlwyd y Cyngor gan Adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a’i brif bwrpas yw rhoi cyngor ac arweiniad i Weinidogion Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r Gymraeg a gweithredu ei strategaeth iaith.

Cafwyd ymateb cadarnhaol i’r broses benodi gyda safon yr ymgeiswyr, a’r amrediad o arbenigedd yn eithriadol o uchel – nid oedd hi’n hawdd dewis pwy i’w benodi. Rwyf felly wedi penderfynu penodi saith aelod newydd, ac rwyf yn ddiolchgar iddynt am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Cyngor Partneriaeth.

Yr aelodau newydd a fydd yn ymuno ag aelodau presennol y Cyngor Partneriaeth fydd: Anwen Eluned Davies, Meurig Jones, Manon Cadwaladr, Tegryn Jones, Meleri Light. Savanna Jones ac Owain Wyn

Bydd yr aelodau newydd yn gwasanaethu ar y Cyngor am dair blynedd. Rwyf yn hyderus bod ganddynt y profiad a’r arbenigedd angenrheidiol i gefnogi’r Llywodraeth. Rhan o'r dasg fydd cyfrannu at y gwaith parhaus o wireddu strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.

Rwy’n hyderus y bydd y Cyngor Partneriaeth yn parhau’n arf defnyddiol wrth i ni symud ymlaen gyda’n gilydd tuag at y miliwn ac i ddyblu defnydd dyddiol o’r Gymraeg.