Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ar 11 Rhagfyr 2025, cyhoeddais benodiad yr Athro Dylan E. Jones yn Gadeirydd Dysgu, yn weithredol o 5 Ionawr 2026, am dymor o bedair blynedd. Rwyf bellach yn falch o gadarnhau bod pedwar cyfarwyddwr hefyd wedi’u penodi i Fwrdd Dysgu am dymhorau pedair blynedd o 1 Ebrill 2026, yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus drylwyr a chystadleuol a gynhaliwyd yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
Mae’r cyfarwyddwyr newydd eu penodi yn dod â chyfoeth o arbenigedd ac ymrwymiad dwfn i gryfhau addysg yng Nghymru:
- Jayne Woods sy’n gyfrifydd siartredig a siaradwraig Cymraeg sy’n dod â phrofiad helaeth o reolaeth ariannol, risg a llywodraethu ar draws y sector cyhoeddus i’r Bwrdd.
- Trefor Jones sy’n bennaeth uchel ei barch o Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun. Mae ganddo brofiad sylweddol o arwain o fewn y system ysgolion, gan gynnwys arwain gwella strategol gyda ffocws ar ddysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth.
- Claire Williams sy’n bennaeth profiadol gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y maes addysg ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel Pennaeth ADY, Cynhwysiant a Lles yn Awdurdod Lleol Torfaen, lle mae’n arwain datblygiadau ar arfer cynhwysol ar draws lleoliadau addysg.
- Paul Jones sy’n bennaeth gweithredol profiadol sy’n dod ag arbenigedd sylweddol ym maes addysg ôl‑16. Mae wedi gweithio ym maes Addysg Bellach fel Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau ac fel Cofrestrydd Academaidd.
Rwy’n croesawu’r cyfoeth o wybodaeth a phrofiad y maent yn ei gyfrannu o draws y sector addysg. Bydd eu sgiliau cyfunol yn cryfhau capasiti Dysgu i yrru cynnydd ar fy mhrif flaenoriaethau o wella llythrennedd, rhifedd, lles a chynhwysiant i ddysgwyr ledled Cymru.
Rwy’n hyderus bod y Bwrdd bellach mewn sefyllfa gref i gefnogi Dysgu i ddarparu dysgu proffesiynol a chefnogaeth arweinyddiaeth o ansawdd uchel, yn gyson ledled Cymru, gan sicrhau bod ymarferwyr ar bob cam o’u gyrfaoedd yn derbyn yr hyn sydd ei angen arnynt i ragori.
