Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn proses benodi gyhoeddus agored, ac yn unol â'r Cod Llywodraethiant ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Cadeirydd a dau Aelod newydd wedi'u penodi i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae gan Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru rôl allweddol i'w chwarae. Mae'n gyfrifol ar y cyd am sicrhau bod cyfeiriad strategol Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar nodau llesiant Cymru, egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) 2016.

Cafodd Gofal Cymdeithasol Cymru ei ailenwi o dan adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ar ôl cael ei sefydlu'n wreiddiol fel Cyngor Gofal Cymru o dan adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Bydd Cadeirydd presennol Gofal Cymdeithasol Cymru, Arwel Ellis Owen, OBE, yn gadael ei swydd ddiwedd mis Gorffennaf 2019.  Mae Arwel wedi bod yn y swydd ers 1 Awst 2009, ac wedi cael llwyddiant fel cadeirydd Bwrdd y Cyngor Gofal a Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru.  Mae ei gyfraniad a'i ymrwymiad i'w rôl fel Cadeirydd wedi bod yn rhagorol, ac mae ei arweinyddiaeth wedi bod yn esiampl wych, yn arbennig wrth oruchwylio'r gwaith trawsnewid rhwng Cyngor Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2017.

Rwyf wrth fy modd cael cyhoeddi mai Michael Giannasi fydd Cadeirydd newydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth a chyfoeth o wybodaeth. Bydd penodiad Michael yn para rhwng 1 Awst 2019 a 31 Gorffennaf 2023. Bydd Michael yn derbyn tâl o £337 y dydd, yn seiliedig ar ymrwymiad amser o 8 diwrnod y mis.

Mae'n bleser gen i hefyd benodi dau Aelod newydd i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, sef Maria Battle a Trystan Pritchard.  Bydd y ddau yn dod â phrofiad a gwybodaeth helaeth i'r Bwrdd. Bydd cyfnod Maria a Trystan yn eu swyddi yn para rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 30 Mehefin 2023. Byddant yn derbyn tâl o £282 y dydd, yn seiliedig ar ymrwymiad amser o 24 diwrnod y flwyddyn. Yn unol â'r raddfa gyflog, bydd tâl aelodau presennol y Bwrdd yn cynyddu o £250 y dydd i £282 y dydd, yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2019.

Rwy'n hynod o ddiolchgar am y gwaith y mae aelodau presennol y Bwrdd wedi'i wneud, ac rwy'n siŵr y bydd Cadeirydd ac Aelodau newydd y Bwrdd yn parhau i wneud cyfraniad gwirioneddol i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn parhau i wella a darparu ar gyfer pobl Cymru.

Hoffwn ddiolch i'r holl ymgeiswyr a wnaeth gais ar gyfer swydd y Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Roedd y pwll o ymgeiswyr ar gyfer y ddwy swydd yn gryf iawn ac yn cynnwys amrywiaeth eang o ddiddordebau a chryfderau.

Caiff yr holl benodiadau eu gwneud ar deilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol unrhyw ran yn y broses ddethol.  Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i'r sawl a gaiff ei benodi ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn gyhoeddus (os yw'n datgan ei fod wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol). Nid oes un o'r aelodau a benodwyd wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.

Dyma fanylion y Cadeirydd a'r Aelodau newydd i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru:

Cadeirydd

Michael Giannasi

Ymddeolodd Michael Giannasi o wasanaeth yr heddlu ym mis Ebrill 2011, ar ôl gyrfa lwyddiannus dros 31 o flynyddoedd.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n gweithio mewn tri gwasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr gan ennill rheng Prif Gwnstabl.  Yn 2011, derbyniodd Fedal Heddlu'r Frenhines am ei gyfraniad i waith yr heddlu.

Wedi iddo ymddeol o Wasanaeth yr Heddlu yn 2011, cafodd Michael ei benodi gan Lywodraeth Cymru i fod yn Gomisiynydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn - awdurdod lleol a oedd yn tanberfformio ac wedi'i osod dan Fesurau Arbennig.  Bu yn y rôl honno tan fis Mai 2013, pan daethpwyd i'r casgliad bod ymyrraeth y Llywodraeth ym materion y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus. 

O fis Medi 2013 tan fis Ebrill 2018, Michael oedd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (y GIG). Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, bu'n arwain y gwaith o ddatblygu Bwrdd newydd ac yn goruchwylio'r gwaith o recriwtio Prif Swyddog Gweithredol ac uwch dîm rheoli newydd. Ar yr un pryd, helpodd i sicrhau gwelliannau mewn llywodraethu corfforaethol gan ddarparu goruchwyliaeth strategol wrth weithredu fframwaith cyflawni ac atebolrwydd diwygiedig fel rhan o raglen ddiwygio genedlaethol, ehangach.  Cafodd ei wneud yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn 2018 mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae Michael yn gweithredu fel Cadeirydd y Panel Goruchwylio Annibynnol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth sydd wedi'i sefydlu gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o ymyrraeth Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Aelodau'r Bwrdd

Maria Battle

Maria Battle yw Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae Maria yn derbyn tâl o £69,850 am y penodiad Gweinidogol hwn.

Cyfreithiwr yw Maria sy'n arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus a hawliau dynol. Bu gynt yn Uwch Gyfarwyddwr Llais Defnyddwyr Cymru, sef corff gwarchod statudol ar gyfer defnyddwyr, yn hyrwyddo hawliau defnyddwyr yn y marchnadoedd ynni, tlodi tanwydd, cartrefi mewn parciau a diogelwch bwyd. Cyn hyn, bu Maria yn Ddirprwy Gomisiynydd Plant Cymru / Comisiynydd Dros Dro, yn hyrwyddo hawliau plant ym meysydd diogelu plant, addysg, ceisio lloches ac iechyd yng Nghymru, y DU ac yn Ewrop. Sicrhaodd Maria fod gan blant lais, a bu'n gweithio i'r Gymdeithas Blant a Gweithredu dros Blant lle bu'n rheoli'r Gwasanaeth Gwarcheidwaid Ad Litem. Bu'n eiriolwr annibynnol ar gyfer plant mewn cartrefi plant, ac mae wedi cadeirio Ymchwiliadau a Phwyllgor Safonau Cyngor Sir Caerfyrddin.  Maria oedd Cyfarwyddwyr Age Concern Ceredigion, yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Maria yw un o Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru, sy'n deulu o saith amgueddfa ledled Cymru, ac roedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Stadiwm Principality ac yn aelod lleyg o Gyngor Prifysgol Caerdydd. Mae swydd Maria fel Ymddiriedolwr hefyd yn benodiad Gweinidogol, fodd bynnag ni dderbynnir tâl am y swydd hon.

Trystan Pritchard

Mae Trystan wedi bod yn Brif Weithredwr Hosbis Dewi Sant, Llandudno ers 2014.

Cyn hyn, treuliodd Trystan amser yn datblygu rhaglen bartneriaeth strategol ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector mewn dwy wlad, gan oruchwylio'r maes iechyd a gofal cymdeithasol, plant a phobl ifanc a diogelwch cymunedol.

Treuliodd nifer o flynyddoedd cyn hynny fel Pennaeth Cyfathrebu Bwrdd Iechyd mawr, gyda chyfrifoldeb am gyfathrebu strategol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwasanaethau ar-lein.

Mae diddordebau proffesiynol Trystan yn cynnwys cydweithio, meithrin tîm ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae Trystan yn newyddiadurwr cymwys, ac ef yw Cadeirydd Hospice Cymru.