Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru eu trawsnewid ar raddfa nas gwelwyd mo'i thebyg ers dros 60 mlynedd yn sgil pasio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mae Rhan 7 o'r Ddeddf yn amlinellu fframwaith cyfreithiol newydd a fydd yn atgyfnerthu'r trefniadau diogelu sydd ar waith eisoes i ddiogelu pobl sydd mewn perygl yn fwy effeithiol. Mae'n sicrhau bod asiantaethau diogelu lleol yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth fwy cadarn a bod yna fframwaith cadarnach a mwy effeithiol ar gyfer cydweithio rhwng asiantaethau.

Er mwyn darparu arweinyddiaeth fwy cydlynol, mae'r Ddeddf yn sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol newydd, sy'n cynnwys cadeirydd a hyd at bum aelod.

Corff cynghori, a fydd yn gweithio ochr yn ochr â'r byrddau diogelu oedolion a'r byrddau diogelu plant, yw'r bwrdd cenedlaethol. Nod y bwrdd cenedlaethol yw gweld gwelliannau ym mholisïau ac arferion diogelu ledled Cymru. Bydd y bwrdd cenedlaethol yn chwarae rôl allweddol yn cynghori Gweinidogion ar faterion yn ymwneud â diogelu yng Nghymru.

Ym mis Awst 2015, cafodd ymarfer penodiadau cyhoeddus ar gyfer cadeirydd ac aelodau o'r bwrdd ei roi ar waith gan fy swyddogion. Mynegwyd cryn ddiddordeb yn y penodiadau.

Yn dilyn y broses benodi, rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod cadeirydd ac aelodau wedi'u penodi i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. Mae ganddynt brofiad a gwybodaeth helaeth ac maent yn dod o amrywiol gefndiroedd. Gyda'i gilydd, maen nhw’n dangos eu bod yn alluog i fod yn eiriolwyr cadarn dros ddiogelu plant ac oedolion, gan dynnu ar eu profiadau personol o faterion diogelu.  

Un o gyfrifoldebau allweddol y bwrdd cenedlaethol fydd y berthynas rhyngddo a'r byrddau diogelu a'r ystod eang o asiantaethau diogelu sy'n cefnogi'r byrddau diogelu i weithio dros oedolion a phlant sy'n cael eu hesgeuluso a'u cam-drin. I wireddu hyn, yn unol â'r fframwaith deddfwriaethol y mae swyddogaethau'r bwrdd cenedlaethol yn seiliedig arnynt, mae'n ofynnol i aelodau'r bwrdd cenedlaethol gyfarfod â'r byrddau diogelu ddwywaith y flwyddyn. Mae hefyd yn ofynnol i'r bwrdd gynnal digwyddiadau ymgynghori blynyddol o leiaf unwaith y flwyddyn gyda'r rheini sy'n cael eu heffeithio gan y trefniadau i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghymru.

Rwy'n siŵr y bydd y bwrdd cenedlaethol yn gwneud gwir gyfraniad i sicrhau ein bod ni oll yn gwneud popeth y gallwn ni yng Nghymru i atal plant ac oedolion sydd mewn perygl rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.

Cadeirydd

Dr Margaret Flynn

Mae gan Margaret gyfoeth o brofiad yn deillio o'i gwaith mewn gofal cymdeithasol, yn y sector gwirfoddol ac fel addysgwr ac ymchwilydd. Mae gan Margaret brofiad uniongyrchol o gadeirio bwrdd diogelu ac, yn fwy diweddar, bu'n arwain adolygiad Gweithrediad Jasmine i achosion o esgeuluso pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Yr Aelodau  

Simon Burch

Mae gan Simon brofiad diweddar o arwain a rheoli ymarferwyr i gefnogi pobl sydd mewn perygl o niwed neu o gael eu cam-drin, gyda ffocws penodol ar gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod a datblygu perthynas ddiogel, sy'n rhoi boddhad, ag eraill.

Ruth Henke, Cwnsler y Frenhines

Mae Ruth yn arbenigwr yn y gyfraith yn ymwneud ag oedolion a phlant ac mae wedi gweithredu ar ran awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, rhieni a pherthnasau, ac oedolion analluog a phlant.  

Jan Pickles OBE

Mae Jan yn weithiwr cymdeithasol profiadol sydd wedi gweithio yn y trydydd sector ac i'r gwasanaeth prawf, yr heddlu, y llywodraeth a'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC). Jan wnaeth arwain ar ddatblygu'r gynhadledd amlasiantaeth asesu risg (MARAC), sy'n gwneud oedolion a phlant sy'n dioddef cael eu cam-drin yn ddomestig a thrais a chamdriniaeth rywiol yn fwy diogel. Mae hwn yn fodel cenedlaethol erbyn hyn.

Rachel Shaw

Fel nyrs, bydwraig ac ymwelydd iechyd cymwys, mae Rachel yn dod â phrofiad helaeth o'r maes iechyd i'r bwrdd cenedlaethol. Mae Rachel wedi cymryd rhan mewn adolygiadau o arferion, fel adolygydd ac fel cadeirydd panel.

Keith Towler

Rhwng 2008 a 2015, Keith oedd Comisiynydd Plant Cymru. Mae'n arbenigwr uchel ei barch ar hawliau plant ac mae ganddo fwy na 30 mlynedd o brofiad mewn gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid a rolau mewn gweinyddu cyfiawnder. Roedd Keith yn aelod o Fforwm Diogelu Plant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn aelod panel o'r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol.

Dechreuodd y penodiadau hyn ar 1 Chwefror a byddant yn para am gyfnod o dair blynedd i gychwyn. Cafodd y penodiadau eu gwneud yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.