Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw yr wyf yn cyhoeddi penodiadau y Cadeirydd ac Aelodau i Fwrdd annibynnol fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar berfformiad cymdeithasau tai yng Nghymru, darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y sector ac yn herio rheoleiddio y Llywodraeth o’r sector. Bydd y penodiadau hyn yn para am dymor o 3 blynedd tan Ionawr 2019.

Helen White fydd Cadeirydd y Bwrdd Rheoleiddio, ar hyn o bryd mae Helen yn Gadeirydd  Ymddiriedolaeth Tai Knowsley.

Aelodau eraill y Bwrdd:

  • Ron Dougan
  • Ceri Victory-Rowe
  • Gayna Jones (hyd at fis Mawrth 2017)
  • Claire Russell-Griffiths
  • David Roberts
  • Robert Smith

Mae bywgraffiadau y Cadeirydd a'r Aelodau ar gael ar dudalen we y Bwrdd Rheoleiddio ar gyfer  Cymru (http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/services-and-support/regulation/regulatory-board-for-wales/)

Yr wyf yn falch o benodi grŵp o unigolion mor dalentog a phrofiadol i'r Bwrdd Rheoleiddio annibynnol newydd. Yr wyf yn hyderus y bydd yr amrywiaeth o sgiliau a'u profiad yn darparu cyngor a her gwerthfawr i ddatblygu sector y cymdeithasau tai.