Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses penodiad cyhoeddus agored ac yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Neil Wooding wedi’i benodi’n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Jan Williams yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r penodiadau hyn yn amodol ar wrandawiadau cyn penodi a gynhelir ar 25 Ebrill 2024.