Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiad blaenorol a gyhoeddwyd ar 10 Ionawr 2022, ac wedi ymgyrch recriwtio lwyddiannus, mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad yr Athro Medwin Hughes DL yn Gadeirydd Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yr Athro Hughes yn ei swydd am gyfnod o bedair blynedd, hyd nes 31 Mawrth 2026.

Mae hon yn rôl arweinyddiaeth hynod o bwysig ar gyfer y corff a fydd yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau’r cyhoedd o ran gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o 1 Ebrill 2023. Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn ystod y flwyddyn nesaf i adeiladu’r cysylltiadau, y systemau a’r sylfeini angenrheidiol ac edrychaf ymlaen at gyhoeddi penodiadau yr aelodau anweithredol sy’n weddill yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae gan yr Athro Hughes brofiad helaeth o arwain ar lefel uwch ac ef yw Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers 2011, er y mae’n fwriad iddo ymddeol o’r swydd hon yn fuan.

Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Athro Hughes. Rwy’n hyderus y bydd ei brofiad yn ei alluogi i sefydlu Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn sefydliad blaenllaw o ran cynrychioli llais a safbwyntiau pobl mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi’r gwaith parhaus o wella gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar unigolion.

Ynglŷn â’i benodiad, dywedodd yr Athro Medwin Hughes:

“Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gael gwasanaethu yn y rôl hon yn fawr, yn ogystal â’r cyfle i sefydlu corff cenedlaethol newydd sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl gan sicrhau bod safbwyntiau unigolion a chymunedau yn ganolog i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’r partneriaid a’r bobl niferus sy’n ymwneud â’r gwaith o feithrin cysylltiadau â dinasyddion a darparu eu gofal wrth inni ddatblygu’r corff newydd.”