Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:
Yn dilyn ymddiswyddiad Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru , rwyf wedi penodi Syr David Henshaw yn Gadeirydd Dros Dro am gyfnod o ddeuddeg mis. Bydd yn dechrau yn ei swydd ar 1 Tachwedd 2018.

Arferai Syr David Henshaw fod yn Brif Weithredwr Cyngor Dinas Lerpwl ac mae wedi cyflawni sawl rôl fel Cadeirydd yn y GIG, megis yn Awdurdod Iechyd Strategol Gogledd-orllewin Lloegr ac Ysbyty Plant Ymddiriedolaeth Sylfaen Alder Hey lle arweiniodd y Bwrdd yn y broses o adeiladu'r ysbyty newydd. Gofynnwyd hefyd am ei gymorth fel Cadeirydd Dros Dro i helpu sawl Ymddiriedolaeth Ysbytai'r GIG a oedd yn wynebu heriau.

Ar ddechrau 2019, byddaf yn dechrau'r broses recriwtio i benodi Cadeirydd newydd. Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn penodi pum aelod newydd i'r Bwrdd ac rwy'n disgwyl iddynt ddechrau yn eu swyddi ar 1 Tachwedd 2018 hefyd.

Bydd y Cadeirydd Dros Dro ac Aelodau newydd o'r Bwrdd yn ymuno â phum aelod presennol y Bwrdd a fydd yn cael eu hailbenodi ym mis Tachwedd. Bydd ei flaenoriaethau ef, ynghyd â'r Prif Weithredwr a gweddill y Bwrdd, ar y cychwyn yn cynnwys cefnogi'r sefydliad wrth iddo weithio at greu strwythurau a ffordd o weithio mwy effeithiol, gwella dulliau llywodraethu a meithrin cysylltiadau cryfach â rhanddeiliaid.