Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mehefin, cyhoeddais fy mod yn dod â phenodiad tri aelod o Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru i ben. Daw hyn yn sgil adroddiad annibynnol a ddaeth i’r casgliad fod rhanddeiliaid y Comisiwn wedi colli hyder ynddo ac nad oedd yn addas i’w ddiben. Bryd hynny, dywedais y byddwn yn gwneud penodiadau dros dro nes cael cyfle i gynnal proses benodi lawn ac agored.  

Heddiw, rwyf wedi penodi Max Caller yn Gadeirydd dros dro Comisiwn Cymru. Ar hyn o bryd, Max Caller yw Cadeirydd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Lloegr, ond mae wedi cytuno i gael ei benodi dros dro i swydd Cadeirydd Comisiwn Cymru. Bydd yn dechrau yn y swydd honno ar 22 Gorffennaf am gyfnod o ychydig dros 8 mis.

Rwy’n awyddus i weld gwaith y Comisiwn, yn enwedig yr adolygiad ar Ynys Môn, yn ailddechrau cyn gynted â phosibl, ac felly rwyf wedi gofyn i’r  Cadeirydd dros dro enwebu ymgeiswyr posibl i’w hystyried ar gyfer eu penodi fel Comisiynwyr eraill.

Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach i’r Aelodau pan fyddaf wedi dod o hyd i’r Comisiynwyr hynny.