Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Yn dilyn sefydlu Dysgu, y corff dysgu proffesiynol a chefnogaeth arweinyddiaeth newydd, ar 1 Medi 2025, mae'n bleser gennyf gadarnhau y bydd yr Athro Dylan E Jones yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Dysgu o 5 Ionawr 2026. Fe'i penodwyd am gyfnod o 4 blynedd ar ôl proses gystadleuol yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.
Hoffwn longyfarch yr Athro Jones ar ei benodiad. Mae ganddo ddealltwriaeth fanwl ac eang o’n system addysg, gan gynnwys drwy arwain yr adolygiad strategol o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru, a adroddodd yn 2024.
Mae Dysgu yn allweddol i yrru cynnydd ar fy mlaenoriaethau o wella llythrennedd, rhifedd, llesiant a chynhwysiant mewn addysg. Bydd yn canolbwyntio ar gynnig dysgu proffesiynol a darpariaeth arweinyddiaeth o ansawdd uchel, sy'n gyson drwy’r wlad, er mwyn cefnogi ymarferwyr ar hyd eu llwybrau gyrfa.
