Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad ar 15 Awst, rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi penodi Syr David Henshaw yn Gadeirydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.  Bydd y penodiad yn dechrau ar 1 Tachwedd 2019 am gyfnod o bedair blynedd, gan ddod i ben ar 31 Hydref 2023.

Rwy'n ddiolchgar i bawb a ymgeisiodd ar gyfer y rôl, gan helpu i sicrhau ei fod yn ymarfer cystadleuol a thrwyadl.  Roedd hyn yn cynnwys presenoldeb Syr David mewn gwrandawiad cyn penodi gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar 26 Medi. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r pwyllgor am ymgysylltu'n gynhyrchiol â swyddogion.

Mae gan Syr David gefndir o lwyddiant blaenorol o ran darparu arweinyddiaeth gref

a thrawsnewid ar lefel Bwrdd.  Bydd ei benodiad yn ei gwneud hi'n bosibl i'r sefydliad barhau i adeiladu ar y cynnydd da a wnaed ers ei benodi’n Gadeirydd dros dro.  

Mae'r penodiad yn derbyn tâl cydnabyddiaeth blynyddol o £46,800 ar gyfer ymrwymiad amser o 72 diwrnod y flwyddyn o leiaf.  

Nodiadau

Gwnaed y penodiad hwn yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus. Mae pob penodiad yn cael ei wneud ar rinwedd ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyniad i weithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os oes unrhyw rai’n cael eu datgan) gael ei gyhoeddi.  

Nid oes unrhyw weithgarwch gwleidyddol wedi’i ddatgan.