Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn gwrandawiad cyn penodi'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 4 Mawrth a chymeradwyo Katija Dew fel yr ymgeisydd a ffefrir, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod bellach wedi penodi Katija i ymgymryd â rôl Cadeirydd newydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. Rwy'n ddiolchgar i waith craffu'r Pwyllgor ar y broses benodi hon.

Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am arwain Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru wrth ddarparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth strategol i lywio'r corff i gyflawni ei ddiben yng nghyd-destun nodau a pholisïau strategol Llywodraeth Cymru. Bydd y Cadeirydd, ynghyd â'r Bwrdd, yn sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio yn unol â gweithdrefnau a pholisïau, ei fod yn gwario arian yn dda ac yn y ffordd iawn, a bod ganddo ffyrdd clir o reoli risgiau a allai effeithio ar y sefydliad.

Mae gan Katija gyfoeth o brofiad yn y sectorau gofal cymdeithasol ac iechyd, ac rwy'n hyderus y bydd yn darparu'r cymorth a'r arweinyddiaeth angenrheidiol i Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn helpu i lywio'r sefydliad i wynebu'r heriau sydd o'i flaen. Yn amodol ar y gwiriadau cyn penodi, bydd Ms Dew yn dechrau yn ei rôl ar 16 Gorffennaf 2026 am dymor o bedair blynedd. 

Hoffwn hefyd ddiolch i Mick Giannasi, Cadeirydd presennol Gofal Cymdeithasol Cymru, am y cyfraniadau sylweddol y mae wedi'u gwneud yn ystod ei wasanaeth ers 2019.